Newyddion S4C

Carcharu aelod o staff Gwasanaeth Erlyn y Goron am ddarparu gwybodaeth i droseddwyr

05/05/2023
geg

Mae menyw 39 oed o Gasnewydd wedi cael ei hanfon i garchar am chwe blynedd ar ôl ei chael yn euog o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Roedd Rachel Simpson yn cael ei chyflogi fel gweithiwr cyfreithiol o fewn Gwasanaeth Erlyn y Goron pan gafodd ei harestio ym mis Mehefin 2020 gan swyddogion o Uned Gwrth-lygredd Heddlu De Cymru.

Yn dilyn tystiolaeth ddaeth i'r golwg yn ystod ymchwiliad i weithgareddau grŵp troseddol yn ardal Casnewydd, daeth i’r amlwg bod Simpson wedi bod yn darparu gwybodaeth o ffynonellau’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i grwpiau troseddol yng Nghasnewydd ac yn ddiweddarach Glannau Mersi am nifer o flynyddoedd.

Dywedodd yr Ditectif Arolygydd Matt Houghton: “Roedd Simpson yn mwynhau safle o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb o fewn Gwasanaeth Erlyn y Goron ac fe fradychodd, gan siomi ei chydweithwyr, yr heddlu a’r cyhoedd.

“Mae ein hymchwiliad wedi arwain at ddatgelu dwy drosedd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus a 29 o droseddau’n ymwneud â’r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron ac roedd cymaint o dystiolaeth yn ei herbyn fel nad oedd ganddi fawr o ddewis ond pledio’n euog cyn gynted â phosibl.”

'Ymddiriedaeth'

Dywedodd Andrew Penhale, Prif Erlynydd y Goron: “Fel un o weithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron, roedd Rachel Simpson mewn sefyllfa o ymddiriedaeth a doedd dim ond angen iddi gael mynediad at wybodaeth sensitif a chyfrinachol pan roedd hyn yn angenrheidiol.

“Roedd hi’n chwilio am ddeunydd yn rheolaidd pan nad oedd angen busnes ac, ar ddau achlysur, roedd y deunydd sensitif yn cael ei drosglwyddo i droseddwyr cyfundrefnol.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn disgwyl i’w holl staff weithredu’n onest wrth drin data sydd yn cael ei gadw yn ei systemau a disgynnodd Simpson ymhell islaw’r safonau hyn. Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn unigolion sy'n ymddwyn yn anghyfreithlon. Rydym hefyd yn adolygu ein systemau digidol yn gyson i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.