Newyddion S4C

Joe Ledley am ddysgu Cymraeg 'ar ôl clywed yr iaith ymhlith ei gyd-chwaraewyr'

Joe Ledley am ddysgu Cymraeg 'ar ôl clywed yr iaith ymhlith ei gyd-chwaraewyr'

NS4C 07/05/2023

Mae’r pêl-droediwr adanabyddus Joe Ledley wedi penderfynu dysgu Cymraeg.

Yn ôl Ledley, roedd clywed yr iaith ymhlith ei gyd-chwaraewyr yng ngharfan Cymru – Aaron Ramsey, Joe Allen a Ben Davies – wedi rhoi’r awch iddo ddysgu'r heniaith.

"Aaron Ramsey, Joe Allen a Ben Davies yn enwedig pan maen nhw'n rhoi cyfweliadau, roeddwn i wedi rhyfeddu ers y diwrnod cyntaf i mi glywed yr iaith. 

"Dwi'n caru sialens, a dyna beth dwi wedi ei wneud drwy gydol fy mywyd, yn enwedig yn ystod fy ngyrfa yn chwarae pêl-droed felly mae'n mynd i fod yn dda."

'Ardderchog'

Bydd Joe yn cymryd rhan yng nghyfres newydd Iaith ar Daith ar S4C, a chyflwynydd Sgorio a Radio Cymru Dylan Ebenezer, fydd yn ei helpu ar y daith.

Bydd cyfle i weld Joe a Dylan Ebenezer yn coginio, dawnsio a chwarae golff. 

Mae Dylan wedi cyfweld â’r cyn-beldroediwr sawl gwaith yn ystod ei yrfa ac yn llawn edmygedd: “Mae’n foi hyfryd - ain’t nobody like Joe Ledley!”.

Mae gwraig Ledley, Ruby, hefyd yn siarad Cymraeg, ac yn falch bod Ledley yn dysgu’r iaith.

“Dwi’n meddwl bod e’n ardderchog, ma' fe 'di bod isie dysgu Cymraeg am flynyddoedd felly mae hwn yn ddechre da ac mae’r plant moyn helpu,” meddai. 

Bydd Iaith ar Daith ar S4C am 20.00 ar nos Sul, 7 Mai.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.