Newyddion S4C

Perchnogion tŷ hanesyddol yn cael gwared ar enw newydd Saesneg ar eu cartref yn dilyn cwynion

ITV Cymru 06/05/2023
y llwyn.jpg

Mae arwydd Saesneg, wnaeth gael ei osod gan berchnogion newydd maenor hanesyddol yn Eryri, bellach wedi cael ei dynnu yn dilyn ffrae ddiwylliannol dros yr enw.

Fe wnaeth yr arwydd, gafodd ei osod fis diwethaf, achosi ymateb chwyrn yn Nolgellau, Gwynedd, gan ei bod yn ymddangos ei fod yn disodli enw Cymraeg un o eiddo hanesyddol y dref gyda fersiwn Saesneg.

Yn dilyn y dadlau, fe wnaeth y cyngor tref gytuno i wneud ymholiadau gyda'r bwriad o 'addysgu' perchennog newydd Y Llwyn, sedd hynafol teuluoedd wnaeth ymgartrefu’n lleol sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg Ganrif.

Roedd yr arwyddbost yn dangos bod yr eiddo rhestredig Gradd II wedi'i ailenwi'n “Snowdonia Manor”. Rhoddwyd enwau i fythynnod ac adeiladau cyfagos fel "Cader Cottage" ac "Idris Barn".

'Fandaliaeth ddiwylliannol'

Fe wnaeth rhai trigolion ddisgrifio'r enwau fel rhai "gwarthus" a gweithred o "fandaliaeth ddiwylliannol".

Dywedodd un dyn: "Mae'n debyg nad oedden nhw'n deall faint o drasiedi yw hyn."

Ar ôl dysgu am bryderon lleol, gweithredodd perchnogion Y Llwyn yn gyflym i dawelu’r sefyllfa.

Fe wnaeth Abby Lever, un o'r partneriaid ailddatblygu, dderbyn bod y penderfyniad wedi bod yn gamgymeriad ac nad oedd y sarhad yn un bwriadol.

"Hoffwn ymddiheuro," meddai Abby, o Lever's Living, Croesoswallt. "Doedden ni ddim wir wedi meddwl drwy’r peth yn iawn.

"Cyn gynted â daethon ni'n ymwybodol o bryderon lleol, fe wnaethon ni drefnu i dynnu’r arwyddbost. Bydd o’n cael ei adfer maes o law gyda'r enwau Cymraeg priodol."

Fe wnaeth newid enw Y Llwyn gael ei drafod mewn cyfarfod o Gyngor Tref Dolgellau nos Fawrth, ac fe wnaeth y cyngor gytuno i ysgrifennu at berchennog newydd yr eiddo yn gofyn iddynt ailfeddwl.

'Siom'

Ar y pryd, fe wnaeth y Cynghorydd Ywain Myfyr fynegi pryder fod y newid enw yn dangos diffyg parch tuag at dreftadaeth yr ardal.

Dywedodd: "Os gallwn ni, byddwn ni'n cyfleu ein siom a, gobeithio, addysgu'r perchennog am hanes yr adeilad."

Fis Medi 2021, ni wnaeth Cyngor Tref Dolgallau godi unrhyw wrthwynebiad i gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig gan y perchnogion newydd, sef JIA Developments, oedd am droi Y Llwyn yn llety twristiaeth.

Fe wnaeth y cwmni addo gadw at ddatblygiad "cydymdeimladwy", gyda'r holl nodweddion rhestredig Gradd II* presennol wedi'u cadw.

Mewn datganiad cynllunio, dywedodd ei hasiantau: "Byddai'r trawsnewid yma'n arwain at gynnydd mewn ansawdd byw yn lleol, gan gefnogi'r twristiaeth leol ac fe fyddai o fudd i'r dreftadaeth leol."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.