Newyddion S4C

Gobaith y gall Geraint Thomas serennu'n y Giro d'Italia

06/05/2023
S4C

Bydd y Giro d'Italia yn dechrau ddydd Sadwrn, gyda gobeithion y bydd Geraint Thomas yn serennu. 

Bydd y 106ed Giro yn ymlwybro o amgylch yr Eidal cyn y bydd yn gorffen yn Rhufain ar 28 Mai. 

Mae cyfanswm o 3,448.6km ar draws 21 o gymalau gwahanol yn aros am y peloton, gyda mawrion y byd seiclo yn gobeithio cipio un o brif wobrau'r byd seiclo. 

Mae nifer o ffefrynau ar gyfer crys pinc enwog y maglia rosa eleni, gan gynnwys enillydd y Vuelta a España Remco Evenepoel, Primož Roglič a Damiano Caruso. 

Ond yn eu plith hefyd mae'r Cymro a chyn-enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.

Enillodd Thomas y Tour yn ôl yn 2018 a daeth yn drydydd yn yr un gystadleuaeth y llynedd, a bydd yn gobeithio dod yn fuddugol eleni gyda help ei gyd-feiciwr o dîm Ineos, Tao Geoghegan Hart, enillydd y Giro yn 2020.

Mae Thomas wedi cystadlu yn y Giro ddwywaith o'r blaen ond bu'n rhaid iddo adael y ras yn 2017 oherwydd gwrthdrawiad gyda beic modur ac yn 2020 ar ôl torri ei glun pan darodd ei feic potel ddŵr.

Bydd y ras yn dechrau yn Fossacesia Marina, ac yn ystod y ras dair wythnos, bydd y peloton yn mynd ymlaen i wynebu pum cymal drwy'r mynyddoedd yn ogystal â thair ras yn erbyn y cloc. 

Byddant hefyd yn seiclo drwy'r Swistir a'r Alpau yn ystod yr ail wythnos lle y byddant yn cyrraedd rhan uchaf y Giro sef ardal y Colle del Gran San Bernardo sydd ar y ffin rhwng Yr Eidal a'r Swistir. 

Mae Stephen Williams o Aberystwyth hefyd yn cystadlu yn y Giro i dîm Israel - Premier Tech.

Bydd y peloton yn cyrraedd y cymal olaf yn Rhufain ar 28 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.