Newyddion S4C

Beth fydd dyfodol y Frenhiniaeth a'i chysylltiad gyda Chymru?

Beth fydd dyfodol y Frenhiniaeth a'i chysylltiad gyda Chymru?

Newyddion S4C 06/05/2023

Tra y bydd nifer yn dathlu coroni Brenin Charles III ddydd Sadwrn, bydd eraill yn ddifater, a rhai yn gwrthwynebu.

Ond beth fydd dyfodol y Frenhiniaeth - a'i chysylltiad gyda Chymru?

Mae cwmni YouGov wedi bod yn cynnal arolygon barn am boblogrwydd y teulu ers blynyddoedd. Mae'r arolygon barn hynny'n awgrymu bod cefnogaeth i'r sefydliad wedi cwympo dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl pennaeth newyddiaduraeth data'r cwmni, Matthew Smith, ym mis Ebrill eleni, roedd 62% o bobl gwledydd y Deyrnas Unedig am weld y frenhiniaeth yn parhau. Ddegawd yn ôl, 75% oedd am weld parhad y sefydliad.

Mae'r ffigyrau yn fwy trawiadol byth wrth edrych ar drawsdoriad o ran oedran. Mae 79% o'r rheiny dros 65 oed am gadw'r Frenhiniaeth, o'i gymharu a 36% o'r rheiny rhwng 18-24 oed.

Ac er bod y teulu brenhinol wedi parhau yn fwy poblogaidd ymysg y to hŷn na'r ifanc ar hyd y blynyddoedd, mae'r bwlch wedi tyfu dros y ddegawd diwethaf (yng Ngorffennaf 2013 er enghraifft, roedd 64% o bobl 18-24 oed yn cefnogi parhad y sefydliad, o'i gymharu gyda 85% o'r rhai 65 oed a hŷn.)

Yn ôl yr hanesydd Dr Marion Loeffler, mae'r Frenhines Elizabeth yn ffactor yn hynny: "Mae'r genhedlaeth hŷn yn llawer mwy tebygol o fod yn deyrngarol.

"Dwi'n meddwl bod hyn yn ymwneud ag Elizabeth yr Ail, oedd yn ddiplomat heb ei hail ac oedd wrth gwrs wedi teyrnasu am amser hir iawn.

"Dydy'r amser ers bu farw Elizabeth II heb ddangos bod Charles wedi gallu cymryd yr awennau i'r un graddau a hi." 

'Pwysigrwydd'

Ond mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn gweld parhad y Frenhiniaeth, ac yn dweud i'r Teulu Brenhinol fod yn bwysig wrth sefydlu datganoli yng Nghymru.

"Roeddwn i'n rhyw feddwl y byddai 'na lawer o bobl fyddai ddim yn hapus iawn gyda datganoli, yn bobl oedd cefnogi'r Frenhiniaeth yn gryf," dywedodd wrth Newyddion S4C.

"Ac felly os oedden nhw'n gweld y Frenhiniaeth, bod rhaid iddyn nhw ddysgu bod rhywbeth newydd wedi digwydd oedd o werth i'r Deyrnas yn ogystal â Chymru."

Ac mae'n mynnu bod Cymru o bwysigrwydd mawr i'r Brenin.

"Does dim cwestiwn am y peth. Wedi'r cyfan, dyma'r Tywysog Cymru sydd wedi bod yn y swydd, os ydy rhywun yn galw'r Dywysogaeth yn swydd, am fwy o amser nag unrhyw Dywysog nad oedd o Gymru, nac yn wir unrhyw Dywysog o Gymru.

"Felly mae ganddo record eithaf da. Mae ganddo fo yr ymdeimlad yma o'r cenhedloedd o fewn i'r Deyrnas Unedig."

'Gorfodi'

Am dorri'n rhydd rhag y Deyrnas Unedig honno mae mudiad YesCymru.

Er nad oes ganddyn nhw bolisi ar gadw neu waredu ar y frenhiniaeth, mae eu Cadeirydd, Gwern Gwynfil, yn breuddwydio am Gymru annibynnol lle byddai'r dewis yna yn cael ei roi i'r bobl.

"Ar hyn o bryd, mae gyda ni Frenhiniaeth sydd wedi cael ei orfodi arnom ni, drwy hanes, ac nad sydd mewn gwirionedd yn Frenhiniaeth Gymreig.

"Bydd y dewis yna yn dod mewn Cymru annibynnol. Gewn ni weld, efallai byddwn ni eisiau'r 'pomp and ceremony', mae rhai pobl yn mwynhau parti.

"Ond byddwn i'n meddwl o edrych ar ddemograffeg yr arolygon barn, yn y pen draw, bydd natur y Frenhiniaeth ymhob gwlad gorllewinol a phob gwlad gynt o'r gymanwlad yn newid dros y degawdau nesaf."

Bydd rhaglen Newyddion arbennig yn edrych yn ôl ar seremoni'r Coroni yn cael ei darlledu nos Sadwrn am 20:00 ar S4C.

Llun: Y Brenin Charles gan James Manning / PA.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.