Newyddion S4C

Heddlu.

Arestio dyn lleol yng Nghorwen ar amheuaeth o geisio llofruddio

NS4C 05/05/2023

Mae dyn lleol o Gorwen wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn y dref yn gynnar fore dydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi eu galw am 02:35 yn dilyn adroddiadau am "ddigwyddiad domestig" yn ardal Clawdd Poncen o'r dref.

Aeth swyddogion lleol, gan gynnwys swyddogion arfog a swyddogion gyda chŵn i'r lleoliad ac mae dyn lleol 27 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae'n parhau yn y dalfa.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i ni barhau â'n hymchwiliadau."

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Bell o Dîm Ymchwiliadau Difrifol yr heddlu: 'Rwy'n gwerthfawrogi y bydd pryderon yn yr ardal leol, a hoffwn sicrhau trigolion nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ynysig hwn, ac nid oes dim bygythiad parhaus i'r gymuned ehangach.

"Bydd swyddogion ychwanegol ar batrôl yn yr ardal i leddfu unrhyw bryderon sydd gan unrhyw un yn y gymuned."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfernod A066020.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.