Newyddion S4C

Canslo parti coroni mewn tref yn y de o achos 'diffyg diddordeb'

05/05/2023
CORONI

Mae trefnwyr parti coroni yn y de wedi gorfod canslo'r digwyddiad ar ôl methu â chodi unrhyw arian i dalu costau, gan honni bod “diffyg diddordeb”.

Roedd Cil-y-coed i fod i gynnal dathliad yng nghanol y dref oedd i gynnwys sgrin fawr ac adloniant i blant, ond gydag ychydig dros wythnos i fynd, cafodd y digwyddiad ei ganslo.

Mewn neges ar-lein, dywedodd Tîm Tref Cil-y-coed fod tudalen ariannu torfol wedi bod yn rhedeg ers 16 diwrnod, ond er iddi gael ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol roedd wedi “methu â chodi unrhyw arian o gwbl”.

Dywedodd y tîm eu bod wedi cysylltu â Chyngor Sir Fynwy a phartneriaid eraill ond eu bod yn dal yn methu â chasglu’r arian yr oedd ei angen ar gyfer y digwyddiad.

Y gred oedd y byddai angen codi rhwng £2,500 a £3,000 i'w gynnal.

'Argyfwng ariannol'

Dywedodd y trfnwyr yn y neges: “Mae Tîm Tref Cil-y-coed wedi penderfynu, yn yr argyfwng ariannol presennol, na fyddai’n fuddsoddiad da o arian, ac y gellid ei wario’n well trwy gydol y flwyddyn, fel Diwrnod Hwyl i’r Teulu a Gwyliau Bwyd Stryd.”

Mae map coroni digidol Llywodraeth y DU yn dangos dwsinau o ddigwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros y penwythnos, ond mae'r niferoedd yn sylweddol is nag unrhyw le arall yn y DU.

Mae cwestiynau wedi’u codi ar gyfryngau cymdeithasol am un digwyddiad sydd wedi ei nodi ar fap cinio coroni’r Eden Project.

Mae’r digwyddiad “preifat” yn Nefyn yng Ngwynedd, wedi ei enwi'n 'Big Ears Festival' - neu Gŵyl y Clustiau Mawr.

Dim ond un darllediad cyhoeddus o’r coroni fydd yn cael ei gynnal yng Nghymru ddydd Sadwrn, a hynny yng Nghastell Caerdydd, gyda Chyngerdd y Coroni yn cael ei ddangos wedyn ar sgrin yn Roald Dahl Plass yn y ddinas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.