Gyrrwr beic modur yn dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ger Bangor

Cafodd gyrrwr beic modur ei gludo i Ysbyty Gwynedd ar ôl dioddef anafiadau difrifol ger Bangor.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gyffordd rhif naw'r A55 ger Treborth.
Bu’n rhaid cau'r A55 am sawl awr o 4.30pm ymlaen ddydd Iau.
Dywedodd Traffig Cymru fod “y gwasanaethau brys yn y fan a’r lle”.
Cafodd y ffordd ei gau tua’r dwyrain i ddechrau ac yna yn y ddau gyfeiriad, gan achosi “traffig trwm” yn yr ardal.