Newyddion S4C

Ed Sheeran yn ennill achos llys yn dilyn honiadau o dorri hawlfraint

04/05/2023
Ed Sheeran

Mae’r cerddor Ed Sheeran wedi ennill ei achos yn y llys ar ôl honiadau ei fod wedi dwyn rhannau o’i gan ‘Thinking out Loud.'

Yn dilyn pythefnos yn y llys yn Efrog Newydd, mae Ed Sheeran wedi ennill ei achos hawlfraint yn erbyn honiadau o ddwyn rhannau o gan 'Let’s Get It On' gan Marvin Gaye, gyda’i gan 'Thinking Out Loud' a chafodd ei ryddhau yn 2014. 

Fe gafodd Mr Sheeran ei gymryd i’r llys gan deulu Ed Townsend a chyd-ysgrifennodd can Marvin Gaye yn 1973 am “debygrwydd amlwg.”

Ond ar ôl trafod am ychydig llai na thair awr, penderfynodd y rheithwyr nad oedd Mr Sheeran wedi amharu ar hawlfraint y teulu gyda’r can.

Dywedodd y cerddor ei fod yn “amlwg yn hapus iawn” gyda’r canlyniad ond roedd yn rhwystredig ar ôl gorfod methu angladd ei nain er lles yr achos. 

Rhoddwyd diolch i’r rheithgor am “wneud y penderfyniad a fydd yn helpu i amddiffyn proses greadigol cyfansoddwyr yn yr Unol Daleithiau a ledled y byd,” a rhoddwyd diolch hefyd i’w gyd-ysgrifennwr, Amy Wadge, a’i dîm cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.