
Amseroedd aros y GIG: Rhaid bod yn ‘amyneddgar’

Bydd rhaid i bobl fod yn “amyneddgar” wrth i’r Llywodraeth daclo amseroedd aros wedi’r pandemig, dywedodd y Gweinidog Iechyd newydd.
Daw hyn wrth i ddwy fenyw sydd wedi eu heffeithio gan restrau aros y GIG siarad am yr effaith ar ansawdd eu bywydau, gydag un yn son am brofi “adegau tywyll iawn” wrth aros am driniaeth.
Roedd dros 568,367 o gleifion yng Nghymru yn aros am driniaeth ar y GIG fis Mawrth – y ffigwr uchaf ers dechrau’r cofnod yn 2011, a bron i un o bob pum person yng Nghymru.
Dywedodd Eluned Morgan wrth ITV Cymru: “Mae’n bwysig i ni reoli disgwyliadau pobl. Ni fydd modd i ni wasgu botwm a gweld newid dros nos.”

“Rydw i’n hynod o ymwybodol bod yna yn lythrennol degau o filoedd o bobl sydd yn dioddef, sydd mewn poen ac sydd yn angen ein cymorth."
Dywedodd hi y byddai gan y GIG yng Nghymru flaenoriaethau clinigol, gyda chyflyrau fel cancr a phobl sydd wedi cael strôc yn cael eu blaenoriaethu, ond bod hefyd rhaid edrych ar bobl sydd wedi gweld ansawdd eu bywyd yn lleihau o ganlyniad i’w salwch.
Mae Stella Dixon, dynes 81 mlwydd oed, yn dioddef o cataracts. Mae ei chyflwr yn effeithio ar ei gallu i ddarllen, defnyddio’r cyfrifiadur, a gwylio’r teledu, ac yn achosi iddi brofi blinder a phen tost.
Wedi iddi ddarganfod y byddai’n rhaid iddi aros dwy flynedd am driniaeth ar y GIG, penderfynodd Stella i gael triniaeth yn breifat.
Fe dalodd hi am driniaeth breifat gyda’r arian a ddaeth o yswiriant bywyd ei gŵr wedi iddo farw dair blynedd yn ôl.
Dywedodd Stella: “Doeddwn i ddim eisiau aros dwy flynedd. Oherwydd fy oed, a gyda fy ngallu i symud yn gwaethygu, roeddwn i wirioneddol yn dymuno cael triniaeth cyn hynny.”
“Dydw i ddim yn dioddef o iselder, ond rydw i’n meddwl y bydden i’n ddiflas, oherwydd byddai bywyd wedi colli ei ansawdd.”

Mae Sarah Sutton, bydwraig o Abertawe, yn dal i aros am driniaeth ar gyfer Covid hir ar ôl iddi ddal y feirws ym Mawrth 2020. Dydy Sarah ddim wedi bod i’r gwaith ers dros flwyddyn o ganlyniad i’r cyflwr.
Dywedodd ei bod hi’n cael trafferth codi o’r gwely, a'i bod yn defnyddio’r gawod yn llai cyson gan ei bod hi’n blino gormod.
“Rydw i’n gwneud pethau yn anghywir, yn anghofio geiriau. Mi wnes i ddim gyrru am fisoedd oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo ei fod yn ddiogel – gwneud penderfyniadau, canolbwyntio, pethau fel yna.
“Rwyt ti’n teimlo fel petai yna lwmpyn yn dy wddf o hyd; fel bod yna rywbeth yn eistedd ar dy fron, rhyw fath o bwysau. Diffyg gwynt o hyd, hyd yn oed jyst wrth siarad.
“Rydw i’n derbyn meddyginiaeth ar gyfer fy nghoesau – niwed i’r nerfau, am wn i. Mae fy nhraed a fy nwylo fel blociau o rew y mwyafrif o’r amser. Teimlo dirgryniadau tu fewn i ti… mae fy nghoes dde yn crynu ac yn bownsio ar ben ei hun. Mae yna lwyth o bethau.
“Mae yna adegau tywyll iawn wedi bod, y diweddaraf ym mis Chwefror, lle meddyliais i, ‘dydw i ddim yn gallu gwneud hyn rhagor’".
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud ei bod hi’n poeni’n arbennig am effeithiau Covid hir, a dywedodd hi ddydd Llun: “Ni fydd rheiny sydd yn dioddef yn cael eu gadael heb gymorth.
“Rydw i am wneud fy ngorau i edrych ar ôl ein GIG a’n system ofal, fel bod modd iddi barhau i wneud gwaith arbennig i’n edrych ar ein hôl ni", ychwanegodd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £100 miliwn wedi ei anelu tuag at leihau amseroedd aros y GIG a chychwyn adferiad y gwasanaeth wedi’r pandemig.