Cyn-gomisynydd Heddlu a Throsedd yn galw am gyfreithloni canabis i 'warchod y bobl mwyaf bregus'
Cyn-gomisynydd Heddlu a Throsedd yn galw am gyfreithloni canabis i 'warchod y bobl mwyaf bregus'

Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd wedi galw am gyfreithloni canabis er mwyn gwarchod y bobl “mwyaf bregus” rhag dioddef o ddeddfau sydd wedi "dyddio".
Mae Arfon Jones, oedd yn aelod blaengar o dîm Heddlu Gogledd Cymru, yn galw am ddiweddaru deddfau meddu a defnyddio canabis er mwyn sicrhau na fydd rhagor o bobl, gan gynnwys plant, yn cael eu “hecsbloetio” wrth dyfu a darparu’r cyffur.
Daw hyn yn sgil y cynnydd yn nifer o ffatrïoedd canabis sydd wedi dod i'r amlwg yn ninas Bangor yn ddiweddar.
Gyda model busnes sy’n ddibynnol ar gyflenwad cyson, cyfreithloni’r cyffur yw’r unig fodd o sicrhau na fydd rhagor o ffatrïoedd “peryglus” yn cael eu hagor i ymateb i’r galw, meddai Arfon.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Does dim sail o dystiolaeth pam bod canabis yn anghyfreithlon. Mae’r dystiolaeth i gyd yn dangos dylsen ni gyfreithloni fo ag yn neud yn ddiogelach i bobl sydd yn cyflenwi fo.
“Dydy’r awdurdodau ddim yn llwyddiannus yn lleihau’r nifer o ddefnyddwyr felly mae’r galw’n dal yna, ag yr unig beth ddigwyddith yw bob tro mae ffatri canabis – fel sydd wedi digwydd ym Mangor – yn cael eu cau lawr, mae un arall yn agor rhywle arall.
“Beth dylswn ni teimlo dros ydy’r bobl sy’n gweithio yn y ffatrïoedd canabis ma, y rhan fwyaf o nhw’n fregus sydd yn cael eu hecsbloetio,” meddai.
Roedd deddfau gwrth-gyffuriau hefyd yn tueddu i gael effaith anghymesur ar leiafrifoedd ethnig, meddai.
Deddf sydd wedi ‘dyddio’
Yn ôl y cyn-Gomisynydd, mae angen mwy o “bwysau” ar ein gwleidyddion i ddiweddaru’r gyfraith.
Mae Barod yn elusen sydd yn helpu pobl gydag anawsterau i’w wneud â chyffuriau ac alcohol.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan, Rob Barker, bod y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 wedi’i “dyddio” ac yn “aneffeithiol” wrth geisio mynd i’r afael a chyffuriau yng Nghymru.
Ychwanegodd: “Rydym yn galw am newid mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau cefnogaeth i iechyd a hawliau pobl sy’n defnyddio cyffuriau.
“Mae’r cyfreithiau a pholisïau presennol sy’n ymwneud â defnyddio sylweddau yn arwain at gryn dipyn o stigma a wynebir gan bobl sy’n defnyddio cyffuriau, ac felly’n cael effaith andwyol ar eu bywydau yn gyffredinol, yn ogystal â chyfrannu at ymdeimlad o unigrwydd.
“Gall cyfreithiau presennol hefyd fod yn rhwystr i bobl geisio derbyn y cymorth y maent ei hangen a’i heisiau, ac y mae ganddynt hawl i’w gael.”