Newyddion S4C

Enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân

04/05/2023
Sam Bevan

Mae dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân ddydd Sul wedi ei enwi. 

Bu farw Sam Bevan, 28 oed o Bont-y-pŵl, yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys un cerbyd yn unig. 

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i’r digwyddiad yn Cocker Avenue am tua 22.50 nos Sul, 23 Ebrill.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: Roedd Sam yn fab, ŵyr, brawd, ewyrth, nai a ffrind gofalgar a llawn hwyl.

"Roedd yn mwynhau bywyd i’r eithaf a gwnaeth i lawer o bobl wenu. 

"Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a gafodd y pleser o’i adnabod… byddwn yn ei garu am byth."

Mae Heddlu Gwent yn apelio am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad gan gynnwys unrhyw fanylion am y car dan sylw. 

Mae sylw penodol yn cael ei rhoi i ddarnau o deiar y car. 

Mae’r heddlu yn gofyn am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, yn ogystal ag unrhyw fodurwyr gyda lluniau camera car, oedd yn yr ardal rhwng 22.00 a 23.00, i gysylltu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.