Arlunydd o Gaerdydd yn defnyddio Marmite a thost i greu portread o Frenin Charles

Mae arlunydd o Gaerdydd wedi creu portread o'r Brenin Charles gan ddefnyddio Marmite a thost er mwyn nodi achlysur seremoni coroni'r wythnos hon.
Mewn ymgais i ddathlu’r brenin a’i hoffter o Marmite, penderfynodd Nathan Wyburn greu portread gan ddefnyddio’r cynhwysyn fel ei brif gyfrwng.
Fel cyn-gystadleuydd Britain’s Got Talent yn 2011 sydd wedi gweithio gyda sawl gyfrwng gwahanol gan gynnwys coffi, fe ddefnyddiodd yr artist 42 darn o bara wedi’i dostio ac un jar fawr o Marmite i lunio’r darn o gelf.
Dywedodd Nathan: “Pan wnes i ddarganfod bod y Brenin yn hoff iawn o Marmite fel rhan o'i hoff frechdan, roedd hynny'n ymddangos hyd yn oed yn fwy addas gan wybod y byddai'n cymeradwyo hyn yn llwyr."
Er gymerodd y portread ddwy awr yn unig i’w greu ac fe gafodd hanner awr o’r amser hwnnw ei wario ar dostio’r holl bara, meddai Nathan.
Ychwanegodd yr artist fod Marmite yn gyfrwng da er mwyn ychwanegu manylion at y darlun.
"Mae’n eithaf tywyll yn erbyn lliw’r tost, felly mae’n caniatáu i mi gael y cyferbyniad hwnnw sydd ei angen arnaf i'w bortreadu yn effeithiol," meddai.