Tynnu sticeri'n galw am annibyniaeth i Gymru o flwch post y coroni

Mae sticeri gweriniaethol yn galw am annibyniaeth i Gymru gafodd eu gosod ar flwch post i ddathlu’r coroni yng Nghaerdydd wedi cael eu tynnu.
Roedd blwch y Post Brenhinol yng nghanol y ddinas yn un o bedwar ar draws y DU i gael eu hail-baentio i ddathlu coroni’r Brenin Charles III ddydd Sadwrn.
Roedd y blwch, oedd wedi ei baentio’n goch, gwyn a glas, wedi ei leoli y tu allan i dafarn Owain Glyndŵr, ger y castell.
Brynhawn Mercher, fe ymddangosodd sticeri CPD Cefn Hengoed Gweriniaeth Cymru ar y blwch post dros y geiriau “Charles” a “Coronation”.
Yn ystod y noson ymddangosodd mwy o sticeri ar y bocs, gyda sticeri Yes Cymru, Lager Wrecsam a Cefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth wedi’u gosod i orchuddio logo swyddogol y coroni.
Yn sgil hynny, fe wnaeth cynghorydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Radur a Morgantown, Calum Davies, adrodd am osod y sticeri i'r Post Brenhinol a Chyngor Caerdydd.
Erbyn canol bore ddydd Iau roedd y sticeri wedi'u tynnu i ffwrdd, ond roedd eu hamlinelliad yn dal i'w weld.
Bydd y brifddinas yn ganolbwynt i ddathliadau coroni’r yng Nghymru dros y penwythnos, gyda darllediadau cyhoeddus o’r seremoni yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd a darllediad o’r cyngerdd canlynol yn Roald Dahl Plass.
Fe fydd protest “Nid fy Mrenin” hefyd yn cael ei chynnal ar strydoedd y ddinas, yn ogystal a digwyddiad o’r enw’r Cinio Mawr Gweriniaethol, ym Mharc Bute.