
Cyngor Sir Gâr yn ymchwilio i achos posibl o asbestos ar draeth
Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio i adroddiadau o asbestos posibl ar draeth mewn tref yn Sir Gaerfyrddin.
Dywed Cyngor Sir Gâr y gallai’r asbestos ar y traeth rhwng Porth Tywyn a’r Pwll ddeillio o olion o’r orsaf bŵer yno yn y 90au.
Maen nhw wedi gofyn i aelodau’r cyhoedd i beidio â chyffwrdd y deunydd wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
Yn ôl maer Porth Tywyn, mae’r asbestos wedi bod yno “ers amser maith” erbyn hyn.
Dywed Michael Theodoulou ei fod wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem ers sawl blwyddyn.
Mae’n ofni fod olion yr orsaf bŵer yn dod yn fwyfwy amlwg oherwydd erydiad arfordirol, gan egluro fod asbestos wedi’i ganfod yn gyntaf ar y traeth nôl yn 2001.
'Dw i'n wallgof am hyn'
Dywedodd Mr Theodoulou wrth Newyddion S4C: “Mae hyn wedi digwydd ac mae wedi bod yno ers sawl blwyddyn.
“Mae’r cyngor yn beio hyn ar erydiad y môr, ond does neb yn gofyn pam fod yr olion yno’n barod.
“Dw i’n wallgof – mae’r peth wedi’i dasgu ar hyn y lle."
Ychwanegodd: “Mae plant yn adeiladu cestyll tywod gydag asbestos ynddyn nhw.”
Dywedodd hefyd na fydd yn fodlon os bydd dim byd yn cael ei wneud ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben.

Mae asbestos yn ffeibr oedd yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin mewn diwydiannau adeiladau tan ddiwedd y 90au.
Ychydig o risg sydd ynghlwm â’r deunydd y tu mewn i adeiladau, ond fe all fod yn beryglus pan mae’n cael ei ddifrodi neu ei gyffwrdd.
Mae ffibrau asbestos yn gallu achosi niwed i’r ysgyfaint wrth gael eu hanadlu.
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, mae “darnau bach” o ddeunydd wedi’i gweld mewn “ardal fach gryn bellter i’r dwyrain” o’r harbwr.
Maent yn dweud fod amodau gwlyb y traeth yn golygu “mai ychydig iawn o berygl y mae’r deunydd yn ei achosi”.
‘Cynghori pobl i beidio â’i gyffwrdd’
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu'r Cyhoedd: “Rydym wedi gweithredu yn dilyn adroddiadau bod deunydd wedi'i weld a allai gynnwys asbestos ar ddarn bach o'r traeth rhwng Porth Tywyn a'r Pwll.
“Mae hyn mewn ardal lle mae rhai olion o'r orsaf bŵer a ddymchwelwyd yn y 1990au yn cael eu datgelu yn sgil erydu arfordirol.
“Er y gallwn fod yn dawel ein meddwl nad yw'r deunydd - hyd yn oed os canfyddir ei fod yn cynnwys asbestos - yn achosi llawer o berygl oherwydd amodau gwlyb yr ardal, rydym yn cynghori pobl i beidio â'i gyffwrdd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y cyngor: “Wrth i ni aros am gyngor yr arbenigwyr sydd ar fin dod, byddwn yn parhau i gadw llygad ar y traeth fel rhan o'n harolygiadau arferol a byddwn yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol pan fyddwn yn cael ein cynghori, gan gynnwys hysbysiadau lleol.”
Mae olion asbestos eisoes wedi cael eu canfod ar safle Gorsaf Bŵer Bae Caerfyrddin, a gafodd ei ddymchwel yn y 90au, ar ôl gweithredu rhwng 1953 a 1984.
Lluniau: Michael Theodoulou