Erling Haaland yn torri record Uwch Gynghrair Lloegr am y nifer o goliau mewn tymor

Mae chwaraewr Manchester City Erling Haaland wedi torri record Uwch Gynghrair Lloegr am y nifer o goliau mewn tymor.
Fe wnaeth tîm Pep Guardiola ddychwelyd i frig y Gynghrair ddydd Mercher ar ôl curo West Ham o 3-0.
Sgoriodd Haaland ar ôl 20 munud o chwarae, gan olygu ei fod bellach wedi sgorio 35 o goliau y tymor hwn, sydd un yn fwy na record flaenorol Andy Cole ac Alan Shearer o 34 o goliau.
Mae'r ymosodwr o Norwy bellach wedi sgorio 51 gôl y tymor hwn ymhob cystadleuaeth, sef 12 gôl tu ôl i record Dixie Dean, gyda naw gêm i fynd.
Buddugoliaeth Man City nos Fercher oedd eu nawfed yn olynol, ac maent yn ôl ar y brig gydag un gêm yn fwy i chwarae nag Arsenal.
Mae Man City hefyd yn gobeithio ennill Cynghrair y Pencampwyr yn ogystal â Chwpan y FA.