Newyddion S4C

Ffrwydradau wedi eu clywed yn Kyiv a dinasoedd eraill yn Wcráin

04/05/2023
Kharkiv

Mae ffrwydradau wedi eu clywed yn Kyiv ac mewn dinasoedd eraill yn Wcráin, ddiwrnod yn unig ar ôl i Rwsia gyhuddo'r wlad o ymosod ar y Kremlin gyda drôn.

Daeth adroddiadau o ymosodiadau hefyd yn ninasoedd Zaporizhzhia ac Odesa yn y de. 

Daw'r ymosodiadau wrth i'r Arlywydd Zelensky siarad yn Yr Hag fel rhan o'i daith i'r Iseldiroedd ddydd Iau.

Bydd hefyd yn ymweld â'r Llys Troseddol Rhyngwladol, sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i droseddau rhyfel honedig Rwsia yn Wcráin.

Mae Rwsia wedi cyhuddo Wcráin o geisio llofruddio'r Arlywydd Putin, ond fe wnaeth Mr Zelensky wadu fod ei wlad yn gyfrifol am yr ymosodiad.

"Dydyn ni ddim yn ymosod ar Putin neu Moscow. Rydym yn ymladd ar ein tiriogaeth ni. Rydym yn amddiffyn ein pentrefi a'n dinasoedd," meddai. 

Yn ystod ei ymweliad â'r Iseldiroedd, mae disgwyl i Mr Zelensky gwrdd â'u Prif Weinidog Mark Rutte, lle y bydd hi'n debygol y bydd Arlywydd Wcráin yn gofyn am rhagor o gefnogaeth milwrol. 

Mae ymosodiadau o'r fath gyda thaflegrau gan Rwsia wedi dod yn fwy prin dros y misoedd diwethaf wrth i'r ymladd rygnu yn ei flaen yn nwyrain y wlad, yn enwedig o amgylch dinas Bakhmut, sydd wedi ei dinistrio yn sylweddol.

Y gred yw y bydd lluoedd Wcráin yn dechrau ar ymgyrch filwrol sylweddol yn y misoedd i ddod i gipio tir yn ôl gan luoedd Rwsia yn nwyrain y wlad, wrth i amodau brwydro heriol y gaeaf ddod i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.