Y blychau pleidleisio wedi agor yn etholiadau lleol Lloegr

Mae disgwyl i filiynau o bobl fwrw eu pleidlais yn etholiadau lleol Lloegr ddydd Iau, gyda'r gorsafoedd pleidleisio wedi agor am 07:00.
Bydd tua 8,000 o gynghorwyr yn cael eu hethol mewn 230 o gynghorau, gyda phleidleiswyr yn dewis pwy y maent eisiau i redeg eu gwasanaethau yn eu ardal leol.
Bydd pleidleiswyr yn Bedford, Caerlŷr, Mansfield a Middlesbrough hefyd yn ethol meiri, ond fydd etholiadau lleol yn cael eu cynnal yn Llundain.
Bydd gorsafoedd pleidleisio yn cau am 22:00 ddydd Iau, gyda'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Mae disgwyl i'r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi ychydig wedi hanner nos ddydd Gwener, gyda 65 o gynghorau yn cyfri pleidleisiau dros nos.
Bydd y gweddill yn dechrau ar y cyfri ddydd Gwener, gyda chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y dydd.
Mae disgwyl i'r canlyniad olaf gael ei gyhoeddi am tua 20:00 nos Wener.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn Lloegr yn gynghorau dosbarth, sydd yn gyfrifol am wasanaethau fel casglu biniau, parciau, tai cyhoeddus a cheisiadau cynllunio.
Dyma'r tro cyntaf y bydd yn rhaid i bleideiswyr yn Lloegr fynd ag ID ffotograffig gyda nhw er mwyn gallu pleidleisio.