Teyrngedau i ferch 15 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r ferch 15 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Caerau o Gaerdydd nos Lun.
Bu farw Keely Morgan yn dilyn y gwrthdrawiad ychydig wedi 21:30 ar Heol Trelái.
Cafodd dyn lleol 40 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac mae ymholiadau’r heddlu'n parhau.
Mewn datganiad, dywedodd ei mam Sian Morgan a'r llysdad Liam Coulthard: “Rydyn ni fel teulu wedi ein dryllio o golli Keely yn sydyn. Mae ein calonnau wedi torri, ac nid oeddem erioed wedi dychmygu y byddai unrhyw beth fel hyn byth yn digwydd i ni.
"Roedd gan Keely bob amser wên mor brydferth a fyddai'n goleuo ystafell. Roedd hi'n gall, yn garedig a doedd gan yr un person erioed air drwg i'w ddweud amdani.
"Mewn cyfnod mor fyr yn y byd hwn, roedd hi wedi cyffwrdd â chymaint o bobl ac roedd ganddi gymaint o gynlluniau sydd bellach wedi'u cymryd i ffwrdd mor greulon."
Diolchodd ei theulu am gefnogaeth y gymuned ac i'r gwasanaethau brys yn dilyn y digwyddiad.
'Myfyriwr eithriadol'
Mae pennaeth ysgol Keely hefyd wedi rhoi teyrnged iddi. Dywedodd Martin Hulland, prifathro Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd fod "teimlad enfawr o sioc a galar" ymysg y gymuned ysgol yn dilyn clywed y newyddion.
"Roedd Keely yn fyfyriwr eithriadol a oedd wrth ei bodd yn yr ysgol. Roedd hi'n ffrind da i lawer o fyfyrwyr ac roedd ganddi wir angerdd am ddrama.
"Dangosodd Keely lefelau uchel o wydnwch i oresgyn problemau iechyd difrifol ac roedd yn esiampl wych i gynifer.
"Mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i ffrindiau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu gofal a chymorth ar yr amser hynod anodd hwn.”