Newyddion S4C

Parc Penrhos: Cynghorwyr sir yn gwrthod elfennau o gais cynllunio i adeiladu pentref gwyliau

03/05/2023
Penrhos

Mae elfennau o gais dadleuol ar gyfer parc gwyliau ger Caergybi wedi eu gwrthod gan gynghorwyr Ynys Mon.

Cafodd cais cwmni Land and Lakes i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos ger Caergybi ganiatad yn 2016, ond mae rhai elfennau yn parhau i fod angen cymeradwyaeth cyn i’r cwmni ddechrau ar y gwaith.

Penderfynodd pwyllgor cynllunio Môn ddydd Mercher i fynd yn groes i argymhelliad swyddogion, ac fe wrthodwyd caniatáu rhai o'r elfennau o’r cais.

‘Hollti’

Wrth gynnig fod y ceisiadau'n cael eu gwrthod, dywedodd un o gynghorwyr Caergybi, Jeff Evans, bod cynllun Land and Lakes wedi "hollti" y gymuned leol yng Nghaergybi ac Ynys Môn.

Ond dywedodd y cynghorydd Robin Williams fod yn rhaid i'r pwyllgor fod yn realistig.

"Yr unig beth 'da ni'n wneud ydi leinio pocedi cyfreithwyr wrth ohirio fo o fis i fis," meddai.

Fis Ionawr fe wnaeth y pwyllgor cynllunio ohirio trafod y cais.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad yn dadlau nad ydi caniatad cynllunio 2016 bellach yn ddilys.

“Dylai fod yn ofynnol, felly, i'r datblygwr gyflwyno cais newydd, a mynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd gan ein cleient drwy gydol yr hanes cynllunio hwn,” meddai llythyr gan gyfreithwyr yr ymgyrchwyr i'r pwyllgor cynllunio.

Ddydd Mercher fe wnaeth protestwyr ymgynnull tu allan i adeilad Cyngor Môn i ddangos ei gwrthwynebiad i'r datblygiad.

Image
newyddion

O chwe phleidlais i bump fe gefnogwyd cynnig Jeff Evans i wrthod y tri chais, gydag un cynghorydd yn atal ei bleidlais.

 Bydd rhaid i'r pwyllgor gadarnhau eu penderfyniad yn eu cyfarfod ym mis Mehefin.

Mae safle Penrhos wedi bod yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ers 1967.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.