Arestio dyn 52 oed ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â dryll

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 52 oed ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â dryll.
Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli ddydd Mawrth.
Dywed yr heddlu fod swyddogion dryll arbenigol wedi mynychu'r ardal, ac maent bellach wedi eu bodloni na chafodd dryll ei ddefnyddio y tro hwn.
Mae'r dyn bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl trigolion.