Newyddion S4C

Darllediadau cyhoeddus o seremoni’r coroni yng Nghaerdydd

04/05/2023
Charles Gog Iwerddon

Bydd darllediadau cyhoeddus o seremoni’r coroni yn cael eu dangos yng Nghaerdydd dros y penwythnos. 

Ar draws y DU bydd dwsinau o sgriniau mawr yn dangos coroni dydd Sadwrn.

Bydd rhai hefyd yn dangos y cyngerdd coroni dydd Sul.

Bydd modd i tua 4,000 o bobl fynychu darllediadau cyhoeddus mewn dau leoliad gwahanol yng Nghaerdydd. 

Yng Nghastell Caerdydd mae capasiti i 2,000 wylio seremoni’r coroni.

Yn Mhlas Roald Dahl ym Mae Caerdydd bydd lle i 2,000 o bobl ar gyfer y cyngerdd.

Bydd coroni’r Brenin Charles yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 6 Mai yn Abaty Westminster.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.