Plaid Cymru wedi 'methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol'

Mae adolygiad i "ddiwylliant a phrosesau" Plaid Cymru wedi dod i'r casgliad fod y blaid wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol".
Yn ogystal, mae'n honni fod staff y blaid wedi gweld "gormod o achosion o ymddygiad gwael gan aelodau etholedig yn cael eu goddef", ac nad ydyn nhw'n gweld diben codi pryderon.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Plaid Cymru gomisiynu cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru a'r cyn aelod o staff Nerys Evans i gynnal yr adolygiad o'r enw "Prosiect Pawb".
Mae Pwyllgor Gwaith y blaid erbyn hyn wedi derbyn adroddiad 'Prosiect Pawb' ac wedi cytuno i "dderbyn a gweithredu ei holl argymhellion".
Daeth yr adolygiad i'r casgliad fod Plaid Cymru wedi "methu â gweithredu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol" a bod angen ymdrin â nifer o faterion Adnoddau Dynol "ar fyrder".
Mae hefyd yn dweud bod "diffyg arweinyddiaeth a llywodraethu" ar draws y blaid, gan olygu fod y problemau yma wedi "gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf".
Ychwanegodd y gweithgor fod morâl y staff yn isel ac nad oes ymdeimlad cryf o weithio fel tîm.
Dywed yr adroddiad fod tystiolaeth a gafodd ei gasglu gan arolwg dienw diweddar gan staff ac aelodau etholedig yn "amlygu achosion o aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu."
Mae hefyd yn nodi fod angen i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol sicrhau fod y blaid "yn wirioneddol ac yn amlwg groesawgar i fenywod."
'Diogel'
Mae'r adroddiad yn cynnwys 82 o argymhellion yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, llywodraethu ac arweinyddiaeth, diwylliant, prosesau adnoddau dynol, diogelu a phrosesau disgyblu
Wrth ymateb mewn datganiad ar y cyd, dywedodd arweinydd y blaid Adam Price a Chadeirydd Plaid Cymru Marc Jones ei bod hi'n "amlwg bod yna achosion – yn hanesyddol ac yn fwy diweddar – lle caniatawyd i ymddygiad annerbyniol ddigwydd neu fynd heb ei herio a bod ein prosesau a’n trefniadau llywodraethu wedi bod yn annigonol i fynd i’r afael â hyn.
"Mae unigolion wedi cael eu gadael i lawr o ganlyniad – merched yn arbennig, ond hefyd dynion.
"Mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud yn well os ydym am feithrin diwylliant sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn barchus i bawb."