Rishi Sunak yn beirniadu record Llywodraeth Cymru ar adeiladu tai newydd

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi beirniadu record Llywodraeth Cymru ar adeiladu tai newydd.
Wrth ddadlau ag arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer yn ystod cwestiynau’r prif weinidog, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu hanner y tai a oedd eu hangen.
Daw wedi i Syr Keir Starmer ddweud nad oedd cynghorwyr Ceidwadol “yn syml iawn yn adeiladu digon o’r tai y mae pobol eu hangen”.
“Pam na wneith o roi’r gorau i wneud esgusion a beio pawb arall a dechrau adeiladu tai yn lle?” gofynnodd.
Wrth ymateb dywedodd Rishi Sunak: “Mae’n rhaid ei fod yn meddwl nad ydyn ni’n gallu cofio nôl ymhellach iawn.
“Yn Llundain fe adeiladodd y cyn faer Ceidwadol 60,000 o dai fforddiadwy.
“Yng Nghymru, mae angen 12,000 o dai newydd bob blwyddyn. Ond faint mae Llafur wedi eu hadeiladu dros y flwyddyn ddiwethaf? Dim ond hanner hynny.
“Mae’r Blaid Lafur yn siarad a’r Ceidwadwyr yn gwneud.”
Roedd y ddau yn siarad diwrnod cyn i ran helaeth o Loegr bleidleisio mewn etholiadau lleol ddydd Iau.
‘Trychinebus’
Fe atebodd Prif Weinidog Cymru gwestiynau yn y Senedd ar adeiladu tai newydd yn y Senedd ddiwedd y mis diwethaf.
Dywedodd bod nifer y tai newydd oedd wedi eu hadeiladu yn chwarter cyntaf 2023 yn uwch na’r nifer yn y chwarter cyn y pandemig Covid.
“Mae nifer y tai newydd i lawr ond maen nhw i lawr yn 10 o’r 12 rhanbarth ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae hynny oherwydd y gyllideb fechan drychinebus ym mis Medi sydd wedi codi prisiau morgeisi a chodi cyfraddau llog.”