Nofwraig o Bontyberem wedi ei dewis i gynrychioli tîm iau Prydain
Nofwraig o Bontyberem wedi ei dewis i gynrychioli tîm iau Prydain
Mae merch 14 oed o Bontyberem wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm iau Prydain ym Mhencampwriaeth Nofio Ewrop.
Disgybl Blwyddyn naw yn Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth yw Mabli Collyer.
Pan nad yw hi yn yr ysgol, y mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn y pwll nofio.
Cychwynnodd ei gyrfa yn nofio i Glwb Nofio Caerfyrddin ond bu’n cynrychioli tîm nofio Swansea Aquatics ers rhyw dair blynedd bellach.
Yno, mae'n hyfforddi tua deuddeg awr yr wythnos yn y pwll a thua thair awr ychwanegol yn y gampfa.
Yn ddiweddar, llwyddodd Mabli i gyrraedd yr amser angenrheidiol a fyddai’n ei galluogi i gystadlu fel rhan o dîm Prydain ym Mhencampwriaeth Nofio Iau Ewrop.
Ond nid yw Mabli yn enw anghyfarwydd i’r llwyfan cenedlaethol wrth iddi dorri record iau Cymru yng nghystadleuaeth 200m y dull broga fis Gorffennaf diwethaf gydag amser o 2:28:12.
Mae Mabli’n mwynhau’r elfen gystadleuol yn fawr iawn. "Fi’n joio fe achos pan fi’n nofio ma problemau fi gyd yn diflannu, ma fe fel second home i fi, a fi jyst yn dwlu arno fe," meddai.
Yn sgil ei llwyddiant, mae eisoes wedi cael cyfle i deithio i Slovakia, Canada a Gwlad Belg fel rhan o garfan nofio iau Cymru.
Bu’n ymarfer yn rheolaidd gyda’r nod o gyrraedd yr amser penodedig a fyddai'n ei galluogi i fynd i Bencampwriaeth Nofio Ewrop.
Ond er iddi brofi cyn lwyddiant yn y pwll yn ddiweddar, daeth y newyddion ei bod wedi ei dewis i garfan Prydain yn dipyn o sioc iddi.
Dywedodd Mabli: "Do ni ddim yn disgwyl e o gwbl, ond o ni mor hapus bo fi wedi, o ni’n meddwl falle bod e’nrhywbeth tuag at flwyddyn nesa, roedd e’n sioc mawr i fi i gael yr amser.
"Fi’n edrych mlaen nawr. Fi ‘di bod yn hyfforddi’n galed yn y cycle yma a dal yn cadw i fyndlan at y gystadleuaeth."
Ychwanegodd fod "cefnogaeth y teulu, yr ysgol a hyfforddwr fi, Hayley Baker, ‘di bod yn rili bwysig dros y blynyddoedd. Ma nhw ‘di helpu fi lot, a ma nhw wastad yn gwybod beth sydd orau i fi."
Pwysleisiodd ei hyfforddwraig pa mor anodd oedd cyrraedd y tîm hwn. Dywedodd Hayley Baker: "Mae'n anodd cael eich dewis i’r tîm ar gyfer y gystadleuaeth hon gyda rhai o’r merched sy’n cystadlu yn ddeunaw oed.
"Felly i Mabli, sydd ond yn bedair ar ddeg, i gael yr amser cymhwyso ac i fod yn un o’r tair nofwraig gyflyma yn yr ystod oedran – mae’n testament i’w thalent a’i gwaith caled."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Perfformio Nofio Cymru, Ross Nicholas, ei bod hi’n "ffansatsig" i weld datblygiad ein nofwyr iau yng Ngymru, ac mae’r ffaith iddynt gael eu dewis igynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Ewrop yn tystio i’wholl ymdrechion.’
Bydd Mabli’n cystadlu yn y dull broga yn ninas Belgrade fis Gorffennaf fel rhan o garfan Prydain gyda 33 o nofwyr eraill.