Newyddion S4C

Arestio dyn y tu allan i Balas Buckingham am daflu bwledi dryll i dir y palas

02/05/2023
Buckingham

Mae dyn wedi cael ei arestio y tu allan i Balas Buckingham am daflu bwledi dryll honedig i dir y palas. 

Cafodd ffrwydrad dan reolaeth ei gynnal y tu allan i'r palas ar ôl i ddyn gael ei arestio ar amheuaeth o gael arf yn ei feddiant. 

Cafodd y dyn ei arestio am tua 19:00 ar ôl iddo agosáu at giatiau'r palas a thaflu eitemau i dir y palas.

Dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu'r Met, Joseph McDonald, fod "swyddogion wedi gweithio ar unwaith i arestio'r dyn ac mae bellach wedi ei gludo i'r ddalfa.

"Doedd dim adroddiadau fod ergydion wedi eu tanio, nac unrhyw anafiadau i swyddogion neu'r cyhoedd. 

"Mae swyddogion yn parhau yno wrth i'r ymholiadau barhau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.