Newyddion S4C

Gŵyl Cymru yma o hyd wrth i Dafydd Iwan ag eraill ddathlu cysylltiad Cymru â phêl-droed

03/05/2023
S4C

Bydd Dafydd Iwan ymysg y perfformwyr mewn cyfres o ddigwyddiadau celfyddydol i ddathlu cysylltiad Cymru â phêl-droed.

Cafodd Gŵyl Cymru ei lansio y llynedd i nodi taith tîm pêl-droed Cymru i Gwpan y Byd Qatar, gyda dros 300 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru ac ar draws y byd.

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru fore Mercher y byddai’r digwyddiadau yn parhau, gan ddod â phêl-droed i rai o brif wyliau Cymru eleni.

Ymysg yr enwau fydd yn perfformio yn yr ŵyl bydd y cerddorion Dafydd Iwan ac Ani Glass, Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yr awdur Darren Chetty, a pherfformwyr o Gymuned Dawns Neuadd Cymru.

Bydd perfformiadau yn cael eu cynnal yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Gelli, FOCUS Wales, Pride Cymru a’r Sioe Fawr.

'Pŵer pêl-droed'

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Bydd taith Gŵyl Cymru yn enghraifft wych o’r gwaddol sydd wedi’i greu gan daith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.

“Gyda’n gilydd byddwn yn defnyddio pŵer pêl-droed i amlygu’r dalent anhygoel sydd gennym ledled Cymru trwy ddigwyddiadau llai o fewn ein gwyliau cenedlaethol poblogaidd, sy’n arddangos ein gwlad a’n diwylliant ar eu gorau.”

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Roedd y cyfle i gydweithio llynedd o dan faner Gŵyl Cymru yn fodd i ni gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gelfyddyd, diwylliant ac iaith Cymru.

“Mae gwneud y celfyddydau’n berthnasol i fywydau bob dydd pobl Cymru yn ganolog i’n cenhadaeth.”

Meddai’r cerddor, Ani Glass: “Mae cerddoriaeth a chelf wastad wedi bod yn ganolog i’r profiad pêl-droed, o’r canu ar y cae i’r baneri, maen nhw i gyd yn plethu.

“Yr ymdeimlad hwn o gymuned a chyfeillgarwch y mae diwylliant pêl-droed yn ei greu sy’n fy nhynnu ymhellach i fyd y gêm brydferth hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.