Newyddion S4C

Gorchymyn ysbyty i fam o Gaerdydd wedi i’w phlentyn tair oed ymprydio i farwolaeth

02/05/2023
S4C

Bydd mam 42 oed yn cael ei chadw yn yr ysbyty wedi iddi orfodi ei phlentyn tair oed i ymprydio hyd at farwolaeth.

Daethpwyd o hyd i gorff Taiwo ger ei fam Olabisi Abubakar yn eu cartref yn Y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2020.

Ddydd Gwener penderfynodd rheithgor nad oedd hi’n euog o ddynladdiad y plentyn oherwydd gwallgofrwydd.

Roedd y fam wedi ymprydio ei mab i farwolaeth yn ystod y pandemig Covid-19 yn y gred y byddai yn arbed y genedl rhag y firws, clywodd y llys.

Ddydd Mawrth fe benderfynodd y barnwr Ustus Jefford gadw Abubakar yn y ddalfa am gyfnod amhenodol o dan adrannau 37 a 41 Deddf Iechyd Meddwl 1983.

“Mae’r hyn a ddigwyddodd i chi a’ch plant yn hynod o drist, o ganlyniad i’ch salwch,” meddai'r barnwr.

“Roeddech chi wedi bod yn fam dda a gofalgar ac roedd eich plant yn hapus, yn annwyl ac yn cael gofal da.”

Ond dywedodd ei bod hi wedi “datblygu cyflwr iechyd meddwl ddifrifol”.

“Roedd effaith eich ymprydio yn drychinebus arnoch chi a’ch plant,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.