Newyddion S4C

Drakeford: Bydd rheilffyrdd Cymru yn parhau i ddirywio heb fuddsoddiad

02/05/2023
Mark Drakeford ar y tren

Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd rheilffyrdd yng Nghymru yn dirywio ymhellach heb fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafodd y Prif Weinidog ei herio yn y Senedd ar sail sylwadau a wnaethpwyd gan y Dirprwy Gweinidog Trafnidiaeth, sef bod teithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru yn “ofnadwy”.

Dywedodd Mark Drakeford mai’r pwynt yr oedd ei weinidog, Lee Waters, yn ei wneud mewn gwirionedd oedd bod nad oedd Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yn isadeiledd Cymru.

“Rydw i’n cytuno gyda’r pwynt oedd y Gweinidog yn ei wneud mewn gwirionedd,” meddai.

“Roedd yn tynnu sylw at benderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru barhau i ddirywio.”

Dywedodd fod Cymru “ar waelod y tabl” o ran buddsoddiad rhanbarthol yn isadeiledd Network Rail.

“Mae gan bob rhanbarth arall ond un well buddsoddiad dros y cyfnod nesaf nag sy’n cael ei gynnig i Gymru, er gwaetha’r ffaith bod buddsoddi yng ngwasanaeth rheilffyrdd Cymru wedi bod yn sâl dros y 13 mlynedd gyfan y bu eich Llywodraeth wrth y llyw.

“Dyna’r pwynt yr oedd y Dirprwy Weinidog yn ei wneud, ac mae’n un yr wyf yn meddwl y byddai unrhyw un sy’n edrych yn wrthrychol ar y ffeithiau yn ei gymeradwyo.”

‘Pryderon’

Roedd yr Aelod o Senedd Cymru Ceidwadol Sam Rowlands wedi gofyn yn flaenorol a oedd yn cytuno â sylwadau Lee Waters.

“Rhaid i mi ddweud, Brif Weinidog fod gennych chi Ddirprwy Weinidog sy’n drawiadol o onest,” meddai.

“Mae’n amlwg fod ganddo bryderon am gyflwr y gwasanaethau rheilffyrdd yma yng Nghymru lle mae’r Blaid Lafur mewn grym.

“Cafodd ei ddyfynnu yn dweud bod Trafnidiaeth Cymru yn ‘ofnadwy’ ac wedi bod yn ‘wael ers cyfnod hir.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni ddim-er-elw dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n rheoli'r mwyafrif o isadeiledd rheilffyrdd Cymru.

Awgrymodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Blaid Cymru, Siân Gwenllïan, y dylai Llywodraeth Cymru ofyn am gael pwerau dros yr isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru.

Ymatebodd y Prif Weinidog: “Os gallwn ni gael y pwerau yn llawn, gallwn ni wneud job sy'n tynnu popeth gyda'i gilydd i wneud gwaith gwell yma yng Nghymru.

“Ond dyw pwerau heb y buddsoddiadau ddim yn mynd i ddigwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.