Dyn o Abertawe wedi marw ar ôl syrthio’n ddamweiniol i mewn i’r Tafwys

Bu farw dyn o Abertawe ar ôl syrthio’n ddamweiniol i mewn i Afon Tafwys wrth siarad ar alwad fideo gyda’i gariad, clywodd cwest.
Roedd James East, 25, o Abertawe wedi bod allan gyda Arabella Ashfield o Kingston yn ne-orllewin Llundain yn oriau mân y bore ym mis Medi'r llynedd.
Yn ddiweddarach ffoniodd James East hi er mwyn cwrdd unwaith eto ond syrthiodd wrth eistedd ar Bont Kingston, clywodd cwest crwner Gorllewin Llundain ddydd Mawrth.
Fe wnaeth y dyn a oedd yn ddatblygwr busnesau fwrw ei ben ar waelod y bont ac yna mynd i mewn i’r afon.
Daeth bad achub RNLI o hyd iddo ond bu farw oriau yn ddiweddarach yn Ysbyty Kingston o’i anafiadau.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Arabella Ashfield ei bod hi wedi gweld James East yn syrthio am yn ôl ar ei ffôn, ac wedi clywed sŵn tasgu dŵr.
Ychwanegodd ei bod hi wedi rhedeg tuag at y bont ond heb allu dod o hyd iddo.
Daeth y crwner Dr Anton van Dellen i’r casgliad fod marwolaeth James East yn ddamweiniol ac nad oedd alcohol na chyffuriau wedi chwarae rhan.
“Hoffwn i ddweud fod hon yn ddamwain anghyffredin ond yn anffodus mae llawer gormod o bobol ifanc yn syrthio i Afon Tafwys,” meddai.
Llun: Pont Kingston gan Jim (CC BY 2.0).