Enwi merch 15 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
02/05/2023
Mae merch 15 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Llun wedi cael ei henwi.
Bu farw Keely Morgan o Gaerau ychydig wedi 21:30 ddydd Llun ar Heol Trelai yn y brifddinas.
Mae ei theulu yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teulu ac wedi gofyn am y cyfle i ddod i delerau â'u galar yn breifat.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw ychydig wedi 21:30 nos Lun wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a pherson.
Bu farw'r ferch 15 oed yn y fan a’r lle.
Cafodd dyn lleol 40 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae wedi’i gludo i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.