Newyddion S4C

Awduron ffilm a theledu Hollywood yn mynd ar streic

02/05/2023
Hollywood

Bydd dros 10,000 o awduron sgriptiau ffilm a theledu Hollywood yn mynd ar streic ddydd Mawrth.

Mae Urdd Ysgrifenwyr America (WGA) wedi galw eu streic gyntaf ers 15 mlynedd ar ôl methu a sicrhau tâl uwch i’w haelodau.

Roedden nhw wedi bod yn trafod ar y cyd â stiwdios gan gynnwys Walt Disney a Netflix.

Fe barhaodd y streic ddiwethaf yn 2007-08 dros 100 o ddiwrnodiau ac fe gostiodd £2bn i’r diwydiant ar y pryd.

Mewn datganiad dywedodd yr WGA nad oedd y corfforaethau mawr yn parchu sgiliau eu haelodau.

Roedd nifer bellach yn gweithio dros dro ar brosiectau unigol yn hytrach na swyddi sefydlog, llawn amser, medden nhw.

Ychwanegodd yr undeb bod awduron yn wynebu “argyfwng”.

Mae’r WGA yn cynrychioli 11,500 o awduron sy’n byw yn bennaf yn Efrog Newydd a Los Angeles. 

Dywedodd Cynghrair Cynhyrchwyr Ffilm a Theledu America (AMPTP) eu bod nhw wedi cynnig codiad cyflog “hael” i awduron ond wedi methu a dod i gytundeb.

Llun: Arwydd Hollywood gan Clementp.fr (CC BY-SA 4.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.