Newyddion S4C

Gatland yn enwi carfan o dros 50 cyn Cwpan Rygbi’r Byd

01/05/2023

Gatland yn enwi carfan o dros 50 cyn Cwpan Rygbi’r Byd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan estynedig o 54 o chwaraewyr i baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd eleni.

Ymysg yr enwau sydd heb eu cynnwys mae prop y Llewod, Wyn Jones, a’r canolwr Joe Hawkins, sydd ddim yn gymwys i chwarae dros Gymru am y tro ar ôl iddo arwyddo dros glwb Gaerwysg ar gyfer y tymor nesaf.

Ymysg y deg chwaraewr sydd wedi eu cynnwys sydd heb gap rhyngwladol, mae pump prop, Kieran Assiratti, Will Davies-King, Henry Thomas, Kemsley Mathias a Cory Domachowski.

Mae Henry Thomas wedi ennill saith cap dros Loegr ond yn gymwys i chwarae dros Gymru ar ôl newid yn y rheolau.

Yn dychwelyd i’r garfan mae’r chwaraewyr ail reng Cory Hill a Will Rowlands, fydd yn chwarae eu rygbi i glybiau yn Siapan a Ffrainc y tymor nesaf.

Mae Gatland wedi dweud y bydd y garfan yn cael ei dorri i 45 o chwaraewyr cyn i’r tîm hedfan i’r Swistir ar gyfer cyfnod o hyfforddiant dwys.

Yna, bydd y garfan yn cael ei leihau i 33 ar gyfer y bencampwriaeth.

'Cyfle Gwych'

Dywedodd Gatland: "Rydyn ni wedi dewis carfan fawr am sawl rheswm. Mi wnawn ni leihau’r garfan i 45 cyn i ni fynd i’r Swistir, felly mae dipyn bach o berygl i'r chwaraewyr yno yn ystod rhan gyntaf yr ymgyrch.

“Mae’n gyfle gwych i rai o’n chwaraewyr yn ystod y Chwe Gwlad a chwaraewyr ifanc i ddangos i ni beth maen nhw’n gallu gwneud yn ystod y sesiynau agoriadol.

“Yn y gorffennol, rydyn ni wedi rhoi pwyslais mawr ar ba mor galed ‘da ni’n hyfforddi a pa mor ffit yw’r garfan. Felly dyna’r neges i’r chwaraewyr, iddyn nhw ddod i mewn, creu argraff, gweithio’n galed iawn, a gwneud i'r hyfforddwyr gymryd sylw o’u cyflwr rhagorol.”

Carfan Estynedig Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2023:

Blaenwyr (31):

Rhys Carre (Caerdydd – 20 cap), Corey Domachowski (Caerdydd – di-gap), Kemsley Mathias (Scarlets – di-gap), Nicky Smith (Gweilch – 42 cap), Gareth Thomas (Gweilch – 21 cap).

Eliott Dee (Dreigiau – 41 cap), Ryan Elias (Scarlets – 33 cap), Dewi Lake (Gweilch – 8 cap), Ken Owens (Scarlets – 91 cap).

Keiron Assiratti (Caerdydd – di-gap), Tomas Francis (Gweilch – 71 cap), Will Davies-King (Caerdydd – di-gap), Dillon Lewis (Caerdydd – 50 cap), Henry Thomas (Montpellier – di-gap).

Adam Beard (Gweilch – 46 cap), Ben Carter (Dreigiau – 9 cap), Rhys Davies (Gweilch – 2 cap), Cory Hill (Yokohama Canon Eagles – 32 cap), Dafydd Jenkins (Caerwysg – 6 cap), Alun Wyn Jones (Gweilch – 157 cap), Will Rowlands (Dreigiau – 23 cap), Christ Tshiunza (Caerwysg – 5 cap), Teddy Williams (Caerdydd – di-gap).

Taine Basham (Dreigiau – 11 cap), Taulupe Faletau (Caerdydd – 100 cap), Dan Lydiate (Gweilch – 68 cap), Josh Macleod (Scarlets – 2 cap), Jac Morgan (Gweilch – 9 cap), Tommy Reffell (Leicester Tigers – 9 cap), Justin Tipuric (Gweilch – 93 cap), Aaron Wainwright (Dreigiau – 37 cap).

Olwyr (23)

Gareth Davies (Scarlets – 67 cap), Kieran Hardy (Scarlets – 17 cap), Rhys Webb (Gweilch – 40 cap), Tomos Williams (Caerdydd – 45 cap).

Gareth Anscombe (Gweilch – 35 cap), Dan Biggar (Toulon – 107 cap), Sam Costelow (Scarlets – 2 cap), Owen Williams (Gweilch – 7 cap).

Mason Grady (Caerdydd – 2 cap), Max Llewellyn (Caerdydd – di-gap), George North (Gweilch – 113 cap), Joe Roberts (Scarlets – di-gap), Nick Tompkins (Saracens – 27 cap), Johnny Williams (Scarlets – 5 cap), Keiran Williams (Gweilch – di-gap).

Josh Adams (Caerdydd – 49 cap), Alex Cuthbert (Gweilch – 57 cap), Rio Dyer (Dreigiau – 7 cap), Cai Evans (Gweilch – di-gap), Leigh Halfpenny (Scarlets – 99 cap), Louis Rees-Zammit (Caerloyw – 25 cap), Tom Rogers (Scarlets – 2 cap), Liam Williams (Caerdydd – 84 cap).

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.