Newyddion S4C

Dim angen logos ar wisgoedd ysgol 'fel eu bod yn rhatach' meddai Gweinidog Addysg Cymru

02/05/2023
Jeremy Miles

Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi dweud na ddylai logos ar wisgoedd ysgol fod yn orfodol wrth gyhoeddi canllawiau newydd heddiw.

Dywedodd Jeremy Miles bod gwisg ysgol "yn rhan bwysig o greu ymdeimlad o hunaniaeth ar gyfer ysgol" ond ei fod yn "hanfodol bod y wisg yn fforddiadwy".

Galwodd ar ysgolion i ostwng costau gwisgoedd ysgol er mwy lleddfu'r baich ar gyfer teuluoedd "sy'n parhau i deimlo pwysau’r cynnydd mewn costau".

Fe ddaw sylwadau Mr Miles yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwisg ysgol, a wnaeth ofyn pa mor fforddiadwy oedd gwisgoedd ysgol yn ystod yr argyfwng costau byw.

"Rydym yn gwybod bod gwisgoedd ysgol wedi’u brandio yn gallu bod yn llawer drutach i deuluoedd," meddai Jermey Miles.

"Dyna pam na ddylai ysgolion eu gwneud yn orfodol. Yn sicr, ni ddylai fod gofyniad i nifer o eitemau fod wedi’u brandio.

"Yng Nghymru rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd, gyda llawer o deuluoedd incwm is yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol. Dyma'r cynllun mwyaf hael o'i fath yn y DU, sy’n darparu hyd at £300 i deuluoedd i brynu gwisg ysgol ac offer."

'Adolygu'

Cafodd rhieni, gofalwyr, dysgwyr, cyrff llywodraethu, penaethiaid, athrawon a staff ysgol, cyflenwyr gwisgoedd ac eraill eu gwahodd i rannu eu barn fel rhan o'r ymgynghoriad.

Roedd 56% yn dweud na ddylai logos ymddangos ar wisgoedd ysgol o'i gymharu â 27% a oedd yn anghytuno.

“Rwy’n galw ar gyrff llywodraethu ysgolion i adolygu eu polisïau gwisg ysgol presennol i sicrhau bod fforddiadwyedd yn cael ei flaenoriaethu," meddai Jeremy Miles.

"Dylai unrhyw newidiadau i bolisi gwisg ysgol gael eu cyfathrebu i deuluoedd cyn diwedd y tymor ysgol presennol."

Mae canllawiau newydd hefyd yn galw am roi trefniadau yn eu lle fel bod gwisgoedd ysgol ail law ar gael ar gyfer rhieni a gofalwyr.

Mae rhieni a gofalwyr i blant yr ysgol wedi ymateb yn bositif i’r cais i roi gwisg ysgol sy’n rhy fach i'w plant i’r ysgol er mwyn eu cynnig i deuluoedd eraill.

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg ymweld ag Ysgol Gynradd Gatholig St Michael's ym Mhontypridd yn ddiweddar i weld cynllun ailgylchu a chyfnewid yr ysgol ar waith.

Mae menter 'The Uniform Exchange' yn Ysgol St Michael's yn darparu gwisg ysgol fforddiadwy i ddisgyblion, teuluoedd a’r gymuned yn ystod argyfwng economaidd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.