Hediad ychwanegol wedi ei drefnu ar gyfer Prydeinwyr yn ceisio ffoi Sudan

Mae gan Brydeinwyr sy’n ceisio ffoi’r ymladd yn Sudan tan hanner dydd i gyrraedd maes awyr er mwyn cael eu prosesu ar gyfer hediad ychwanegol sydd wedi ei drefnu.
Mae 2,122 o bobl wedi gadael ar 23 hediad o faes awyr Wadi Saeedna ger Khartoum hyd yma, ond mae’n bosib bod hyd at 1,000 o ddinasyddion y DU dal yn Sudan.
Cyhoeddodd y Llywodraeth ddydd Gwener ei bod yn rhoi’r gorau i weithredu o’r safle ddydd Sadwrn ynghylch pryderon a fyddai’r cadoediad rhwng byddin y wlad a’r grŵp parafilwrol, Rapid Support Forces (RSF) yn parhau.
Mae dinasyddion y DU bellach yn cael eu cynghori i deithio i Borth Sudan lle bydd hediad ychwanegol yn cychwyn ddydd Llun, meddai’r Swyddfa Dramor (FCDO), wrth i’r ddwy ochr gytuno i ymestyn y cadoediad bregus am 72 awr arall.
Er mwyn cael eu prosesu ar gyfer y daith, mae pobl yn cael eu hannog i gyrraedd maes awyr rhyngwladol y ddinas cyn amser lleol canol dydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor James Cleverly: “Mae hediadau i gludo pobl o’r wlad wedi dod i ben o Wadi Saeedna ond mae ein hymdrechion achub yn parhau o Borth Sudan.”
Daw hyn wrth i filoedd o bobl o wledydd ar draws y byd ymgynnull yn Port Sudan i geisio ffoi’r gwrthdaro.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dweud fod 400 o ddinasyddion wedi eu lladd yn y rhyfela hyd yma.