Newyddion S4C

Mamau'n mentro her y mynyddoedd er mwyn cefnogi hosbis sydd yn gofalu am eu plant

30/04/2023

Mamau'n mentro her y mynyddoedd er mwyn cefnogi hosbis sydd yn gofalu am eu plant

Fe fydd criw o famau i blant â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau yn dringo'n uchel i gwblhau her arbennig ddechrau mis Mai.

Bwriad y menywod yw cwblhau her y Tri Chopa Cymreig ar gyfer Hosbis Plant Tŷ Hafan, ac hynny am resymau personol iawn.

Mae’r wyth mam, pob un ohonynt â phlentyn sy’n derbyn gofal gan yr hosbis plant, yn anelu at goncro Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-Fan ar ddydd Sul, 7 Mai er bod y rhan fwyaf ohonynt yn ddibrofiad mewn mynydda.

Syniad Bridget Harpwood oedd her Mamau yn erbyn y Mynyddoedd. Cafodd ei merch Elain ei geni gyda chyflwr cymhleth ar ei chalon.

Dywedodd Bridget, mam a llysfam i bump, o Aberystwyth: “Rydym wedi eistedd yn ôl ers sbel a gwylio tîm Tadau Tŷ Hafan yn gwneud heriau corfforol dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym bellach yn teimlo mai ein tro ni yw hi.

"Mae mamau’n aml yn dod yn rhan naturiol o’r rôl gofalwr sylfaenol pan fydd ganddynt blentyn ag anghenion iechyd ychwanegol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cael trafferth weithiau i flaenoriaethu a dod o hyd i amser i ni ein hunain.

“Bydd yr her hon yn gwthio llawer ohonom y tu allan i’n parthau cysurus a bydd yn rhaid i ni i gyd fod yn hynod benderfynol a threfnus gyda’n paratoadau a’n hyfforddiant. Hoffwn feddwl, trwy wneud yr her hon, y gallwn helpu i ailddiffinio sut mae pobl yn gweld gofal lliniarol a’r teuluoedd hynny sy’n profi byw gyda phrognosis sy’n cyfyngu ar fywyd.”

Ffrindiau

Mae’r Mamau yn erbyn Mynyddoedd yn byw mewn lleoliadau amrywiol ar draws de a gorllewin Cymru gan gynnwys Caerdydd (Lynsey Harris), Y Barri (Stacey Carr), Penarth (Helen Jenkins), Llanilltud Fawr (Alex Forbes), Pen-y-bont ar Ogwr (Marie Jones a Kat Brown) a Chas-gwent ( Martina Harding) ac maen nhw wedi dod yn ffrindiau o ganlyniad i'w hamser yn Nhŷ Hafan.

Dywedodd Paula Langston, Pennaeth Codi Arian Cymunedol Tŷ Hafan: “Rwyf wedi fy syfrdanu’n llwyr o’r hyn y mae pob mam sy’n gofalu am blentyn â chyflwr sy’n byrhau bywyd yn delio ag ef bob dydd gan mai dyma un o’r pethau anoddaf y gall person ei wneud.

“Mae’r ffaith bod yr wyth mam yma wedi penderfynu gwthio eu hunain ymhellach a mynd i’r afael â’r tri chopa uchaf yng Nghymru mewn dim ond 24 awr a’r cyfan i godi arian hanfodol i Dŷ Hafan yn anhygoel.

“Mae’n costio £5.2m y flwyddyn i ddarparu ein gwasanaethau gofal a chymorth, yn ein hosbis yn Sili, ac mewn cartrefi a chymunedau ar draws De, Gorllewin a Dwyrain Cymru a daw mwy nag 80% o haelioni gwych y cyhoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.