Newyddion S4C

Charles

Gofyn i'r cyhoedd dyngu llw o deyrngarwch i'r Brenin Charles yn ystod y coroni

NS4C 30/04/2023

Fe fydd cais i bobl fydd yn gwylio'r coroni i dyngu llw o deyrngarwch i'r Brenin Charles III yn ystod y seremoni, gyda'r cyhoedd yn chwarae rhan weithredol yn y seremoni hynafol am y tro cyntaf mewn hanes.

Fe fydd y Gymraeg yn chwarae rhan yn y seremoni am y tyro cyntaf hefyd, ynghyd â ieithoedd Celtaidd eraill.

Yn ystod y coroni, ar ôl cyfarchiad a chyflwyniad gan Archesgob Caergaint, bydd gweddi Kyrie Eleison yn cael ei chanu yn Gymraeg.

Mae’r geiriau’n cynnwys “Arglwydd, trugarha. Crist, trugarha. Arglwydd, trugarha"

'Cri o gefnogaeth'

Dywedodd Palas Lambeth mai’r gobaith yw y bydd y newid sylweddol i’r gwasanaeth hanesyddol yn arwain at “gri fawr o amgylch y wlad ac o gwmpas y byd o gefnogaeth i’r Brenin” gan y rhai sy’n gwylio ar y teledu, ar-lein neu wedi ymgynnull yn yr awyr agored ar sgriniau mawr.

Nid pawb fydd yn dymuno ymuno yn y gri ac fe fydd protestiadau yn erbyn y Teulu Brenhinol yn cael eu cynnal mewn nifer o ddinasoedd ar ddydd y seremoni.

Dywedodd Graham Smith, llefarydd ar ran Republic, sy’n ymgyrchu dros ddileu’r frenhiniaeth: “Mewn democratiaeth, pennaeth y wladwriaeth a ddylai fod yn tyngu teyrngarwch i’r bobl, nid y ffordd arall o gwmpas.

“Dylai’r math hwn o nonsens fod wedi marw gydag Elizabeth I, ac nid wedi goroesi i gyfnod Elizabeth II.

“Wrth dyngu teyrngarwch i Charles a’i ‘etifeddion a’i olynwyr’, mae disgwyl i bobl dyngu teyrngarwch i’r Tywysog Andrew hefyd.

“Mae hyn yn amlwg yn gam yn rhy bell,” ychwanegodd Mr Smith.

Fe fydd tyngu'r llw yn disodli'r Homage of Peers traddodiadol, pan fod rhes o arglwyddi yn penlinio a gwneud addewid i'r Brenin yn bersonol.

Mae’r litwrgi – geiriau defod gwasanaeth y coroni – wedi’u datgelu yn barod, wedi iddynt gael eu dewis mewn ymgynghoriad gyda'r Brenin, Archesgob Caergaint a’r Llywodraeth.

'Corws o leisiau'

Cyflwynwyd Homage of the People newydd i ganiatáu i “gorws o filiynau o leisiau” gael eu “galluogi am y tro cyntaf mewn hanes i gymryd rhan yn y foment ddwys a llawen hon”, meddai Palas Lambeth.

Bydd yr Archesgob yn galw ar bob person "yn Nheyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a’r Teyrnasoedd a’r Tiriogaethau eraill i wneud eu gwrogaeth, mewn calon a llais, i’w Brenin diamheuol, amddiffynnydd pawb”.

Bydd trefn y gwasanaeth yn darllen: “Mae pawb sy'n dymuno hynny, yn yr Abaty, ac mewn mannau eraill, yn dweud gyda'i gilydd:

“Pawb: Yr wyf yn tyngu y byddaf yn talu gwir deyrngarwch i'th Fawrhydi, ac i'th etifeddion a'th olynwyr yn ôl y gyfraith. Felly helpa fi Dduw.”

Bydd yn cael ei ddilyn gan ffanffer.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.