Gwanwyn oer yn arwain at gostau ychwanegol i deuluoedd

Mae disgwyl i aelwydydd wario £93 ychwanegol ar eu biliau ynni eleni o ganlyniad i'r gwanwyn oeraf ers degawd.
Mae llawer o deuluoedd yn cael eu gorfodi i barhau i ddefnyddio eu gwres canolog am hyd at chwe wythnos yn hirach nag yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd y tywydd oer sydd wedi para'n hirach nag arfer, yn ôl adroddiad newydd.
Fe allai’r canlyniad arwain at £2.3 biliwn ychwanegol ar filiau ynni eleni, yn ôl ymchwil gan yr yr ymgyrch arbed ynni, How To Save It.
Roedd tymeredd cyfartalog y DU am y ddau fis diwethaf yn 1.5°C yn is nag arfer ar gyfer y gwanwyn, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Dywydd.
“Tra bod de Ewrop yn gwywo mewn gwres gradd 40 ° C, mae oerfel anghyffredin y tymor yn golygu bod y mwyafrif o gartrefi Prydain yn dal i ddibynnu ar eu gwres canolog i gynhesu eu cartrefi ddiwedd mis Ebrill,” meddai’r arbenigwr effeithlonrwydd ynni Will Hodson.
“Bydd y rhain yn gostau annisgwyl i gartrefi sydd dan bwysau mawr.”
Mae'r tymheredd yn sylweddol is y gwanwyn hwn yn golygu y bydd y cartref wedi defnyddio amcangyfrif o 30 awr o wresogi yn ychwanegol - gan ychwanegu £93 yn fwy at filiau fesul cartref y gwanwyn hwn, meddai Mr Hodson.
“Ar hyn o bryd mae Prydain yn profi ei hail wanwyn oeraf ers 23 mlynedd,” meddai uwch lefarydd y Swyddfa Dywydd, Grahame Madge.
Tymheredd cyfartalog y DU hyd yn hyn y gwanwyn hwn yw 6.59°C - sy’n golygu bod y tymor hwn ar y trywydd i fod yr ail oeraf ers 20 mlynedd.