Newyddion S4C

Tryweryn arall yn 'amhosib' yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Y Byd yn ei Le 28/04/2023

Tryweryn arall yn 'amhosib' yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y byddai Tryweryn arall yn "amhosib” yng Nghymru heddiw. 

Daw sylwadau David TC Davies bron i 60 mlynedd ers boddi pentref Capel Celyn yng Ngwynedd i ddarparu dŵr ar gyfer trigolion Lerpwl.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Cymru i sicrhau bod yr holl rymoedd dros adnoddau dŵr yn cael eu datganoli i Senedd Cymru.

Ond wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Mr Davies mai “codi bwganod” oedd son am Dryweryn arall. 

Er bod deddf Llywodraeth Cymru 2017 wedi datganoli nifer o’r grymoedd dros adnoddau dŵr i Gymru, mae Plaid Cymru yn dadlau bod yna fylchau sylweddol yn y setliad.

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, mae’r drefn bresennol yn golygu bod “anodddau naturiol Cymru yn cael eu hailgyfeirio i fannau eraill heb iawndal a heb ymgynghoriad gyda phobl lleol chwaith".

Ond mae David TC Davies wedi cyhuddo Liz Saville Roberts o “godi bwganod o’r posibilrwydd o Dryweryn arall yng Nghymru".

Byddai hynny ddim yn bosib am fod y system gynllunio wedi ei ddatganoli felly ni fyddai’n bosib gweld Tryweryn arall fel welon ni 60 mlynedd yn ôl.

“Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau adeiladu cronfa ddŵr newydd wneud cais trwy’r awdurdod lleol yng Nghymru ac wedyn trwy’r Senedd yng Nghymru. Felly, i bob pwrpas, yn fy marn i, mae hi wedi cael ei datganoli yn barod.”

'Dim byd'

Ond yn ôl Cyfarwyddywr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yr Athro Richard Wyn Jones, mae Llywodreath Prydain eisoes wedi dangos “parodrwydd” i “danseilio” pwerau datganoledig Cymru.

“Y gwir amdani yw, petai’r llywodraeth yn Llundain yn teimlo fel bod Tryweryn arall yn anghenrheidiol, fyddai yna ddim byd o gwbl fyddai Llywodraeth Cymru neu Senedd Cymru yn gallu’i wneud i’w stopio,” meddai ar Y Byd yn ei Le.

“Ry’n ni wedi gweld parodrwydd y Llywodraeth a’r Senedd yn Llundain i danseilio pwerau datganoledig dros y blynyddoedd diwethaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yn “rhaid i unrhyw ddatblygiad sy’n cynnwys cyrchu dŵr o Gymru ddangos manteision economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr ar gyfer y rhai sydd ei angen".

“Mae’n rhaid i gwmnïau dŵr sydd yng Nghymru neu’n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr ac mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw gynlluniau," medden nhw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.