Newyddion S4C

Gorchymyn ysbyty i ddyn ar ôl iddo gyfaddef i ddynladdiad dynes 65 oed

28/04/2023
June Fox-Roberts

Bydd dyn 26 oed yn cael ei gadw mewn ysbyty wedi iddo gyfaddef i ddynladdiad dynes 65 oed.

Cyfaddefodd Luke Deeley, 26, o Bontypridd, i ddynladdiad June Fox-Roberts, 65 oed, ar sail cyfrifoldeb lleihaedig ar 21 Tachwedd 2021.

Ymddangosodd o flaen yn Llys y Goron yng Nghaerdydd ddydd Gwener a derbyniodd orchymyn ysbyty amhenodol gyda chyfyngiadau.

Plediodd yn euog i ddynladdiad ac mae ei orchymyn ysbyty yn golygu na fydd yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau yn ôl i'r gymuned hyd nes bod barnwr yn meddwl ei fod yn ddiogel iddo wneud hynny.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Powell o Heddlu De Cymru: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad manwl sydd wedi cynnwys misoedd o werthuso seiciatrig ochr yn ochr â’r ymchwiliad troseddol.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gynorthwyodd fy nhîm a minnau, sy’n cynnwys tystion allweddol, cymuned ehangach Llanilltud Faerdref a phartneriaid y buom yn gweithio gyda nhw.

"Er nad yw dedfryd heddiw yn dod â June yn ôl, rwy’n gobeithio y gall ein hymchwiliad a’n cefnogaeth barhaus i deulu June ganiatáu iddynt alaru gyda gwell dealltwriaeth o’r hyn wnaeth ddigwydd."

Bywiog

Mae teulu June Fox-Roberts wedi dweud ei bod yn berson bywiog a gweithgar.

"Roedd June yn fam, yn nain ac yn hen nain ac wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu estynedig," medden nhw.

"Roedd hi'n caru ei phlant a'i hwyrion, ac er iddi osod safonau uchel i ni, byddai'n gwneud unrhyw beth i'n cefnogi a'n hannog. 

"Treuliodd oriau lawer yn dysgu sgiliau amrywiol i’w hwyrion gan gynnwys pobi, garddio a gweu, ac yn adrodd straeon iddynt am yr 'hen ddyddiau da’ o’i phlentyndod. 

“Roedd yn fywiog, yn hynod o weithgar, yn benderfynol ac yn wydn iawn ar ôl goresgyn sawl her drwy gydol ei bywyd.

"Doedd hi byth yn ofni her ac yn byw bywyd i’r eithaf bob dydd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.