‘Gwneud gwahaniaeth’ wrth agor meithrinfa Gymraeg gyntaf Casnewydd
‘Gwneud gwahaniaeth’ wrth agor meithrinfa Gymraeg gyntaf Casnewydd
Mae meithrinfa fasnachol Gymraeg gyntaf Casnewydd wedi agor ei drysau.
Ar 19 Ebrill, agorodd meithrinfa Wibli Wobli i 40 o blant yr ardal o dan perchnogaeth Natasha Baker.
Fel dysgwr Cymraeg, dywedodd Natasha bod hyn yn gyfle iddi wneud “gwahaniaeth yn y gymuned yn gyffredinol.”
“Nid dim ond rhoi’r wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg i'r plant, ond hefyd i berswadio’r gymuned a’r rhieni bod y Gymraeg yn dda a bod lot o fanteisio iddo,” meddai.
“Rwy wedi bod yn dysgu ers blwyddyn. I ddechrau trwy DuoLingo a gyda fy ffrind, sy’n athrawes yn yr ardal. Mae’n haws os wyt ti’n ddwyieithog yn barod”.
Bu Natasha yn byw yn Ffrainc am chwe mlynedd cyn symud yn ôl i Gymru i redeg busnes KidsLingo gan addysgu plant yr ardal i siarad ieithoedd.
Dechreuodd trwy gynnig gwersi a sesiynau Ffrangeg a Sbaeneg.
“Rwy nawr yn dysgu, gyda thiwtoriaid eraill, Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg i blant ifanc yn yr ysgolion, meithrinfeydd a chanolfannau ar draws Caerdydd a Chasnewydd.
“Rwy’n mwynhau gweithio gyda phlant a’n joio gweld nhw’n dysgu ieithoedd achos mae’n anhygoel sut mae ymennydd plant yn gallu dysgu iaith mor naturiol.”
Gyda chefnogaeth a chyngor Banc Datblygu Cymru, mae Natasha wedi llwyddo i logi rhan o adeilad Wern House yn Rogerstone, i gynnal y feithrinfa.
Prinder staff
Ond ar ôl blwyddyn o waith paratoi, dywedodd bod dod o hyd i staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, sydd hefyd yn gymwysedig gyda gofal plant, wedi bod yn broblem.
“Mae prinder staff i gael yn y diwydiant - rhaid i hwn newid” dywedodd Natasha.
“Mae’n bosib i annog pobl i ddefnyddio’u Cymraeg ond rhaid i ni rhoi’r cyfleoedd iddynt weithio trwy gyfrwng y Gymraeg,” esboniodd.
Yn ôl cyfrifiad 2021, mae 11,604 o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghasnewydd. Ond yn 2011, roedd gan yr ardal 13,002 o siaradwyr Cymraeg. Dyma ostyngiad o 1.8% dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
Cadw’r iaith i fynd
Mae Dan, rhiant lleol sydd ddim yn siarad Cymraeg, wedi dewis anfon ei fab i'r feithrinfa.
Dywedodd: “Mae cael yr opsiwn i ddanfon fy mab i feithrinfa llawn amser Cymraeg yn bwysig iawn i fi a fy mhartner.
“Mae’n bwysig cadw’r iaith i fynd ac mae’r feithrinfa yn sail i hwn.
“Rwy’n credu bod dysgu iaith arall mor bwysig ac mae mynd at feithrinfa fel hyn, dechrau allan mewn amgylchedd tebyg yn ffordd naturiol iawn i ddysgu a datblygu”, ychwanegodd.
“Dylai plant gael y cyfle i siarad Cymraeg. Ni’n falch i ddanfon fy mab yna achos bydd yr iaith yn ddefnyddiol iawn iddo yn y dyfodol.”
Llun gan Fiethrinfa Wibli Wobli