Newyddion S4C

Arweinwyr Plaid Cymru yn gwrthod gwahoddiad i seremoni goroni Charles III

Adam Price

Mae arweinwyr Plaid Cymru wedi gwrthod gwahoddiad i seremoni goroni y Brenin Charles III.

Dywedodd arweinydd y blaid Adam Price a’r arweinydd yn San Steffan Liz Savile Roberts nad ydyn nhw’n bwriadu mynd i’r seremoni ar ôl derbyn gwahoddiad.

Dywedodd Adam Price wrth ITV Cymru mai sail y penderfyniad oedd gweld cymaint yn byw drwy gyfnod o gynni economaidd.

“Fe fyddai yn anodd cysoni cymryd rhan mewn digwyddiad o fath gyda profiad cynifer o deuluoedd ar draws Cymru ar adeg o argyfwng economaidd,” meddai.

Ychwanegodd fod sôn y bydd y Coroni yn costio hyd at £100m ac y byddai modd gwario yr arian yn well “tra bod teuluoedd yn ei chael hi’n anodd gwresogi eu tai”.

Mae arweinydd yr SNP, Humza Yousaf, ac arweinydd Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon, Michelle O'Neill, wedi cadarnhau eu bod nhw’n mynd i’r Coroni.

Bydd coroni’r Brenin Charles yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 6 Mai yn Abaty Westminster.

Bydd gŵyl banc ychwanegol yn cael ei chynnal ddydd Llun, 8 Mai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.