Newyddion S4C

Cymru yn herio'r Eidal yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad

29/04/2023
cymru v eidal

Mae carfan rygbi menywod Cymru wedi teithio i Parma i wynebu'r Eidal yn eu gêm olaf o'r Chwe Gwlad ddydd Sadwrn. 

Ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a'r Alban a cholli yn erbyn Lloegr a Ffrainc, mae Cymru yn y trydydd safle, ac angen pwynt i sicrhau eu lle yn hanner uchaf tabl. 

Y wobr am hynny yw lle yn lefel uchaf twrnamaint newydd y WXV a gemau yn erbyn timau gorau'r byd. 

Mae hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham wedi dweud ei fod yn disgwyl "gêm anodd" ddydd Sadwrn.

"Bydden nhw yn sicr yn brifo ar ôl y golled i'r Alban.

"Mae ganddynt lawer o fygythiadau ar draws y cae yn enwedig yn y cefnwyr."

Gyda'r Azzurri yn chweched a Chymru'n wythfed yn safleoedd timau'r byd, bydd buddugoliaeth i Gymru yn eu codi uwchben yr Eidal ac mae cyfle iddyn nhw godi i'r chweched safle os ydynt yn fuddugol o 15 pwynt neu fwy. 

Bydd Ioan Cunningham yn gobeithio gweld cynnydd ers y llynedd pan gollodd Cymru 10-8 yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yng Nghaerdydd. 

"Ni heb wneud cyfrinach o'r faith ein bod wedi targedu tair buddugoliaeth yn y bencampwriaeth, ni eisiau cymryd rhai camau ymlaen o flwyddyn ddiwethaf.

"Flwyddyn ddiwethaf oedd gennym ni dwy fuddugoliaeth ac 11 pwynt, eleni ni eisiau tair buddugoliaeth ac efallai 15 pwynt."

Mae Cymru wedi gwneud pum newid ers y golled ddiweddar yn erbyn Ffrainc. 

Bydd y gic gyntaf yn erbyn yr Azzurri am 15:30 yn Stadiwm Sergio Lanfranchi yn Parma. 

Tîm Cymru:

15. Courtney Keight (Bryste)

14. Lisa Neumann (Caerloyw)

13. Hannah Jones (capten, Caerloyw)

12. Lleucu George (Caerloyw)

11. Carys Williams- Morris (Loughborough Lightning)

10. Elinor Snowsill (Bryste)

9. Keira Bevan (Bryste)

1.Gwenllian Pyrs (Bryste)

2. Kelsey Jones (Caerloyw)

3. Sisilia Tuipulotu (Caerloyw)

4. Abbie Fleming (Caerwysg)

5. Georgia Evans (Saraseniaid)

6. Bethan Lewis (Caerloyw)

7. Alex Callender (Caerwrangon)

8. Sioned Harries (Caerwrangon)

Eilyddion

16. Carys Phillips (Caerwrangon)

17. Caryl Thomas (Bryste)

18. Cerys Hale (Caerloyw)

19. Bryonie King (Bryste)

20. Kate Williams (Caerloyw)

21. Ffion Lewis (Caerwrangon)

22. Kerin Lake (Caerloyw)

23. Amelia Tutt (Loughborough Lightning)

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.