Gwyddonwyr o Gymru yn creu technoleg AI sy’n rhybuddio am tswnamis

Mae gwyddonwyr o Gymru wedi creu rhaglen AI sy’n rhybuddio am tswnamis.
Mae’r rhaglen deallusrwydd artiffisial yn gwrando ar sŵn y tonnau ar welwy’r môr er mwyn penderfynu a yw un o’r tonnau anferth, dinistriol ar y ffordd.
Y nod oedd datblygu technoleg a fyddai yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng daeargrynfeydd sy’n achosi twnsamis a rhai sydd ddim, medden nhw.
"Gall tsunamis fod yn ddigwyddiadau dinistriol iawn gan achosi colli bywyd enfawr,” meddai Dr Usama Kadri, Uwch-ddarlithydd Mathemateg Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Maen nhw’n gallu dinistrio ardaloedd arfordirol, gan arwain at effeithiau cymdeithasol ac economaidd sylweddol.”
‘Pwysig’
Ar hyn o bryd rhaid disgwyl nes bod y tswnami yn taro bwiau môr ond mae’r dechnoleg hwnnw’n araf a ddim bob tro’r gywir.
O ddefnyddio’r dechnoleg newydd mae’r wybodaeth yn cael ei gasglu gan feicroffonau tanddwr, o'r enw hydroffonau.
Gyda’r dechnoleg maen nhw wedi mesur 200 o ddaeargrynfeydd yn y Môr Tawel a Chefnfor India.
Dywedodd Dr Usama Kadri fod y hydroffonau yn casglu “gwybodaeth am ffynhonnell wreiddiol y digwyddiad tectonig” o “miloedd o gilometrau i ffwrdd o'r ffynhonnell hyd yn oed”.
"Mae hyn yn bwysig oherwydd gan nad yw pob daeargryn tanddwr yn achosi tswnamis."
Mae gwaith y tîm, sef rhagweld y perygl o tswnami, yn rhan o brosiect hirdymor i wella systemau rhybuddio peryglon naturiol ledled y byd.
Llun gan Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau (CC BY 2.0).