Y Scarlets yn wynebu Glasgow yn rownd gyn-derfynol Cwpan Her Ewrop

Bydd y Scarlets yn edrych ymlaen at gyfle i hawlio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her Ewrop ar ôl "wythnos arbennig" i'r clwb.
Dydd Sadwrn bydd y clwb yn croesawu Glasgow i Barc y Scarlets yn y rownd gynderfynol.
Os byddant yn ennill, fe fydd y Scarlets yn eu gêm derfynol Ewropeaidd gyntaf - yn dilyn colledion yn y rowndiau cynderfynol yn 2007 a 2018 i Gaerlŷr a Leinster, gyda dwy golled hefyd fel Llanelli yn 2000 a 2002.
Ond i hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel, a oedd ar y fainc yn erbyn Caerlŷr yn 2002, mae'n bwysig i'r chwaraewyr roi hanes y rhanbarth o'r neilltu.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y cyfle a chreu ein hanes ein hunain," meddai.
"Ni erioed wedi chwarae gartref yn rownd gynderfynol o'r blaen a fi'n siŵr y bydd y dorf yn enfawr i ni."
'Hollbwysig'
Gyda mwy na 12,000 o docynnau wedi'u gwerthu mae Peel yn credu bod "dyletswydd" ar y tîm i sicrhau "perfformiad da" dydd Sadwrn.
Mae'r Scarlets wedi gwneud pum newid ac un newid safle yn dilyn y golled yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn diwethaf gyda Johnny McNicholl yn dychwelyd fel cefnwr o flaen Tom Rogers a Leigh Halfpenny yn dychwelyd o'i anaf.
Yn ogystal â hyn bydd Vaea Fifita yn symud i safle'r wythwyr yn lle Carwyn Tuipulotu, gyda Sione Kalamafoni ac Aaron Shingler allan o achos anafiadau.
Dywedodd capten y Scarlets, Josh Macleod, eu bod nhw angen "dysgu" ar ôl yr 20 munud cyntaf yn erbyn y Dreigiau pan wnaethon nhw fynd ar ei hôl hi o 21 pwynt.
"Am yr 20 munud cyntaf doedden ni ddim yn y ras," meddai.
"Ni 'di eistedd lawr a siarad am hynny a wnewn ni ddysgu o hynny oherwydd bydd hynny'n hollbwysig i ni."
'Agored'
Mae Glasgow wedi gwneud wyth newid gyda'r rheng flaen ryngwladol, Jamie Bhatti, George Turner a Zander Fagerson, yn dechrau yn ogystal â Sebastien Cancelliere o'r Ariannin yn ôl ar yr asgell am y tro cyntaf ers Ionawr.
Teithiodd y Scarlets i Glasgow bythefnos yn ôl gyda'r tîm cartref yn fuddugol 12-9.
Scarlets:
15. Johnny McNicholl; 14. Steff Evans, 13. Joe Roberts, 12. Johnny Williams, 11. Ryan Conbeer; 10. Sam Costelow 9. Gareth Davies; 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Javan Sebastian, 4. Morgan Jones, 5. Sam Lousi, 6. Josh Macleod (capten), 7. Dan Davis, 8. Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Carwyn Tuipulotu, 20 Iestyn Rees, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Ioan Nicholas.
Glasgow:
15. Ollie Smith; 14. Sebastien Cancelliere, 13. Sione Tuipulotu, 12. Stafford McDowall, 11. Kyle Steyn (capten); 10. Tom Jordan, 9. George Horne; 1. Jamie Bhatti, 2. George Turner, 3. Zander Fagerson, 4. Scott Cummings, 5. Richie Gray, 6. Rory Darge, 7. Sione Vailanu, 8. Jack Demsey.
Eilyddion: 16. Johnny Matthews, 17. Nathan McBeth, 18. Simon Berghan, 19. JP Du Preez, 20. Lewis Bean, 21. Matt Fagerson, 22. Ali Price, 23. Duncan Weir.