Gŵyl Gomedi Machynlleth yn 'un o’r gŵyliau comedi pwysicaf' ym Mhrydain
Gŵyl Gomedi Machynlleth yn 'un o’r gŵyliau comedi pwysicaf' ym Mhrydain

Mae'r ddigrifwraig Esyllt Sears wedi dweud bod Gŵyl Gomedi Machynlleth yn “un o’r gŵyliau pwysicaf” i berfformwyr ym Mhrydain.
2010 oedd y tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal, gyda dros 300 o bobl yn mynychu a 30 o sioeau i'w gwylio.
Ers hynny mae'r ŵyl wedi datblygu o nerth i nerth gyda sioeau yn gwerthu yn gyflym.
Eleni mae disgwyl i dros 8,000 o bobl fynychu’r ŵyl a gwylio 300 o sioeau sy’n cael eu cynnal.
Mae'r ŵyl eisiau i bobl "chwerthin, i gael amser gwych, ac i gael croeso cynnes yng ngalon Cymru," medd y trefnwyr, ac mae Esyllt Sears yn credu mai dyma'n union sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf.
Cynorthwyo'r iaith Gymraeg
Fel cydlynydd sioeau comedi Cymraeg, mae Esyllt yn gobeithio hybu’r diwylliant ymysg siaradwyr yr iaith a thu hwnt.
“Ni’n cynnal showcases Cymraeg lle ni’n cael lot o enwau newydd i ddod i ‘neud rhyw 10 munud fel bod pobl yn gallu gweld acts newydd Cymraeg yn dod trwyddo.
“Mae ‘na gig comedi plant Cymraeg hefyd ma’ hwnna wastod yn lot o sbort a mae hwnna’n lyfli achos mae hwnna’n gyflwyniad i blant Cymru i’r scene comedi mewn ffordd. Mae nhw’n gweld stand-up am y tro cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae gyda ni hefyd sioe cyfieithu sy’n cael ei gynnal gan Steffan Alun a mae’r sioe cyfieithu – ni’n annog pobl di-Gymraeg i ddod i’r sioe cyfieithu fel maen nhw’n clywed stand-up Cymraeg am y tro cyntaf hefyd, felly mae ‘na wastod lot o amrywiaeth o sioeau Cymraeg,” meddai.
Hwb i'r economi
Yn ogystal â bod yn digwyddiad sydd yn dod â chomedi i Fachynlleth, mae'r dref wedi gweld buddiannau economaidd o gynnal y digwyddiad blynyddol.
Dywedodd Esyllt fod hynny yn hwb mawr yn ogystal ag arddangos Machynlleth i bobl o wahanol oedrannau a chefndiroedd.
Gyda oddeutu traean o’r gynulleidfa yn ymweld â’r dref o du hwnt i Gymru mae budd o dros £1 miliwn o bunnoedd i economi ymwelwyr Cymru, medd Esyllt.
“Dwi’n credu mae yn codi ymwybyddiaeth am y lle, wi’n nabod lot o bobl bydd wedi mynd i Fachynlleth heb law am hwnna.
“Mae lot mwy yn dod y tu fas i Bowys hefyd felly mae lot o busnesau lleol yn elwa a wi’n credu beth mae’r ŵyl yn falch iawn ohono yw’r ffaith bod ‘na berthynas agos iawn gyda’r dref hefyd.
“Mae’n berthynas dwy ffordd felly dwi’n credu bod ‘na elfen o barch ar y ddwy ochr a mae’r ddwy yn gweld budd i’w gilydd.”