Rhybudd am barcio ‘anghyfrifol ac anghyfreithlon’ yn Eryri

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog ymwelwyr i barcio yn gyfrifol dros benwythnosau Gŵyl y Banc.
Yn ystod Gŵyl y Banc y mis ddiwethaf, fe wnaeth yr heddlu symud dros 40 o gerbydau yn ardal Eryri.
Dywedodd y llu mewn datganiad: “Mae parcio anghyfrifol yn peryglu eich bywyd chi, yn peryglu bywyd cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.
“Ni ddylai mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys gael ei rwystro gan gerbydau sydd wedi’u gadael ar y lôn.”
Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn galw ar ymwelwyr i beidio â pharcio yn “anghyfreithlon”.
Wrth i’r cyntaf o dri phenwythnos gŵyl y banc ym mis Mai eleni agosáu, hoffai’r Awdurdod atgoffa ymwelwyr i barchu’r Parc Cenedlaethol a’i gymunedau, ac i gymryd camau i sicrhau bod eu hymweliadau yn rhai diogel a hwyliog.
— Parc Cenedlaethol Eryri (@apceryri) April 27, 2023
Erthygl llawn 👇https://t.co/06rvgGIK6P pic.twitter.com/rf5VZf95rr
Dywedodd swyddogion y Parc y gallai “parcio anghyfreithlon yn Pen y Pas, ger Llanberis a Llyn Ogwen, Dyffryn Ogwen arwain at gosbau".
Mae’r Parc yn gofyn i ymwelwyr gynllunio eu hymwelaidau o flaen llaw drwy ddefnyddio ap Parcio Eryri, lle mae modd dod o hyd i wybodaeth am lefydd parcio, a gwasanaethau bws yn yr ardal.
“'Da ni am i bawb fwynhau eu hunain yn Eryri, trwy gynllunio o flaen llaw a dilyn cyngor, gall ymwelwyr sicrhau y bydd y penwythnos Gŵyl y Banc hwn yn llwyddiant i bawb," meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
"Dylai ymwelwyr ag Eryri fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y man mae'n nhw'n dymuno ymweld ag o yn rhy brysur. Gall prysurdeb rhai ardaloedd achosi prinder llefydd parcio a mwy o dagfeydd.
"Gall ymweld ag ardaloedd llai prysur neu ymweld ar adegau tawelach roi profiad mwy pleserus a chynaladwy, tra'n galluogi ymwelwyr werthfawrogi harddwch naturiol Eryri."