Cyhuddo dyn o Gaernarfon o droseddau yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod

Mae dyn o Gaernarfon wedi ei gyhuddo o chwe achos o drais yn erbyn menywod.
Ymddangosodd Lloyd Watson Jones, 28 o flaen Llys Ynadon Llandudno bore ddydd Gwener.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud cais am wybodaeth ynglŷn â’i leoliad ddydd Gwener ddiwethaf.
“Mae Lloyd Watson Jones, 28, o Gaernarfon, a oedd yn destun cais am wybodaeth yr wythnos diwethaf, wedi ei gyhuddo o chwe trosedd yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a genethod,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
“Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno'r bore ma.”