Maen Tynged yr Alban yn dychwelyd i Lundain ar gyfer seremoni'r coroni

Mae’r Maen Tynged, carreg symbolaidd o'r Alban, yn cael ei gludo i Loegr am y tro cyntaf ers chwarter canrif ar gyfer seremoni coroni Brenin Charles III.
Roedd y garreg - y Stone of Scone - yn rhan o seremonïau coroni'r Alban cyn goresgyniad teuluoedd brenhinol Lloegr ar y wlad, ond mae'r traddodiad o'i defnyddio er mwyn coroni yn parhau.
Mae gan y garreg hanes hir wedi iddi gael ei chipio gan Frenin Edward I o Loegr yn 1296.
Fe gafodd y garreg ei chanfod ar safle'r Uchel Allor yn Abaty Arbroath lle, ym 1320, datganwyd cenedligrwydd Albanaidd yn Natganiad Arbroath.
Cafodd ei dwyn o Abaty Westminster gan grŵp o genedlaetholwyr o'r Alban ar ddiwrnod Nadolig yn 1950, mewn ymgais i'w hawlio eto ar gyfer pobl yr Alban.
Ar ôl i'r garreg gael ei dwyn yn 1950, cafodd ei dychwelyd i Abaty Westminster ar Ebrill 11, 1951.
Yn fwy diweddar fe'i cludwyd yn ôl i’r Alban yn 1996 yn dilyn penderfyniad y prif weinidog ar y pryd, John Major i'w dychwelyd i'w chartref hanesyddol.
Hanes cymhleth
Wrth siarad am ei hanes cymhleth, dywedodd Yr Athro Ewen Cameron o Brifysgol Caeredin: “Roedd y Brenin Edward yn gwneud datganiad am statws yr Alban wrth ei chymryd.
“Dywedodd un croniclwr taw pwrpas ei symud i Lundain oedd profi ‘teyrnas a ildiwyd ac a orchfygwyd’.
“Ni chafodd y myfyrwyr wnaeth gipio’r garreg eu dedfrydu er mwyn osgoi rhoi sylw i fudiad cenedlaetholgar yr Alban.
“Fe gafodd y garreg ei chludo yn ôl i Abaty Westminster – ei ‘lle traddodiadol’, yn ôl y prif weinidog, Churchill yn 1952 – mewn pryd i goroni’r Frenhines Elisabeth II."
Dyma fydd y tro cyntaf i aelod o’r teulu brenhinol gael ei goroni gyda’r garreg ers seremoni coroni'r Frenhines Elizabeth II yn 1953.
Llun: PA