16 o chwaraewyr Rygbi Caerdydd i adael ar ddiwedd y tymor

Mae Rygbi Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd 16 o chwaraewyr yn gadael ar ddiwedd y tymor - gan gynnwys chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Cyhoeddodd y clwb bod y chwaraewyr yn gadael yn yr haf.
Fe wnaeth Josh Navidi wneud y penderfyniad I ymddeol o rygbi ar ddechrau mis Ebrill oherwydd anaf, ac mae'n un o saith chwaraewr rhyngwladol Cymru sydd yn gadael.
Bydd Kristan Dacey hefyd yn ymddeol o ganlyniad i anaf parhaus.
Dillon Lewis, Rhys Priestland a Willis Halaholo yw'r enwau mwyaf fydd yn gadael Parc yr Arfau ac fe fyddant yn chwilio am glybiau eraill dros yr haf.
Bydd maswr y clwb Jarrod Evans yn ymuno â'r Harlequins tra bod Max Llywellyn wedi arwyddo cytundeb gyda Chaerloyw.
Mae Ray Lee-Lo wedi chwarae i'r clwb ers 2015, ond fe fydd yn gadael y clwb hefyd. Bydd James Ratti, sydd newydd ennill ei gap cyntaf dros Gymru hefyd yn gadael.
Lloyd Williams, Dmitri Arhip, Jason Harries, Joe Peard, Harri Millard, Kirby Myhill a Brad Thyer sydd yn cwblhau'r 16 fydd yn gadael.